Ar drothwy’r etholiad cyffredinol mae nifer o fyfyrwyr yn teimlo fod eu pleidlais eleni yn bwysicach nag erioed.
Yn dilyn hystings a gynhaliwyd gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wythnos diwethaf mae’r Undeb hefyd wedi cymryd camau i annog myfyrwyr i fwrw ei pleidlais.
Dydd Iau mi fydd bws wennol am ddim ar gael i dywus myfyrwyr i’r orsaf bleidleisio.
Erin Jones, Celf Creadigol
Mi fydd Erin Jones, sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, yn pleidleisio am y tro cyntaf eleni. Mae hi fel nifer o’u chydfyfyrwyr wedi penderfynu pleidleisio yn ei chyfeiriad yn ystod y tymor.
“Oedd o’n ddewis hawdd i mi. Yma dwi bellach yn treulio mwyafrif o’n hamser, a gan mai yma fydda i am y dair mlynedd nesaf dwi a mwyafrif o fy nghydfyfyrwyr yn credu mai yma dylai ein cynrychiolaeth fod.”
Nest Jenkins, Y Gyfraith a’r Gymraeg
Er bod Nest Jenkins, a ddaw’n wreiddiol o bentref Lledrod, eisoes wedi pleidleisio drwy’r post mae’n teimlo fod y system bleidleisio bresennol yn anaddas i bleidleiswyr ifanc.
Mae’r fyfyrwraig sy’n astudio’r Gymraeg a’r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn credu bod prysurdeb bywyd myfyrwyr yn chwarae rhan allweddol yn ble maen nhw’n dewis pleidleisio.
“Mae nifer o fyfyrwyr yn pleidleisio lle sydd fwyaf cyfleus iddyn nhw.”
Er hyn, “mewn etholaeth ymylol fel Ceredigion mae myfyrwyr sy’n astudio yma, neu a ddaw yn wreiddiol o’r etholaeth, yn gwybod gallan nhw wneud gwahaniaeth.”
Cadi Dafydd, Hanes Cymru; ac Eleri Wyn, Ffrangeg a Sbaeneg
Pleidleisiodd Cadi Dafydd ac Eleri Wyn, sydd bellach yn astudio cyrsiau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn eu cyfeiriad cartref yn yr etholiad diwethaf, ond mae’r ddwy wedi dewis bwrw eu pleidlais yng Ngheredigion eleni.
“Brexit sydd yn hawlio sylw pob plaid” meddai Cadi, “mewn cyfnod o ansicrwydd fel hyn mae myfyrwyr yn Aberystwyth a thu hwnt yn ymwybodol y gall eu pleidlais nhw wneud gwahaniaeth.”
Wiliam Rees, Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth
Mae Wiliam Rees sydd yn astudio yng Nghaerdydd hefyd wedi dewis pleidleisio yng Ngheredigion a hynny gan ei bod yn sedd ymylol.
“Fel cefnogwr Plaid Cymru rwy’n teimlo bydd pleidlais i Blaid Cymru werth mwy yng Ngheredigion nag yng Nghaerdydd” ac felly’n teimlo fod hi’n bwysig fod gan fyfyrwyr y dewis ble maen nhw’n dymuno pleidleisio.
“Mae gan fyfyrwyr yr hawl i gofrestru yn ei chyfeiriad cartref a thymor, ac rwy’n hapus i weld fod myfyrwyr ar draws Cymru yn ystyried ble mae eu pleidlais fwyaf gwerthfawr.”
Dim ond 104 o bleidleisiau oedd yn gwahanu Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Canlyniad Ceredigion 2017
Ymgeisydd | Plaid | Pleidleisiau | Canran y bleidlais (%) | |
Ben Lake | Plaid Cymru | 11,623 | 29.2 | |
Mark Williams | Democratiaid Rhyddfrydol | 11,519 | 29.0 | |
Dinah Mulholland | Llafur | 8,017 | 20.2 | |
Ruth Davis | Ceidwadwyr | 7,307 | 18.4 | |
Tom Harrison | UKIP | 602 | 1.5 | |
Grenville Ham | Gwyrddion | 542 | 1.4 | |
Sir Dudley the Crazed | MRLP | 157 | 0.4 |
Ymgeiswyr Ceredigion eleni:
- Amanda Jenner, Ceidwadwyr
- Chris Simpson, Y Blaid Werdd
- Dinah Mulholland, Llafur
- Mark Williams, Democratiaid Rhyddfrydol
- Ben Lake, Plaid Cymru
- Gethin James, Plaid Brexit