Amser yn brin i adnewyddu eich tocyn bws

Fforwm gofal henoed yn galw ar bawb sy’n gymwys i adnewyddu eu tocyn erbyn diwedd y flwyddyn

Mererid
gan Mererid
Mair Benjamin a Pam Hughes

Mae fforwm gofal henoed yn galw i bawb sydd yn gymwys am docyn bws i sicrhau eu bod wedi cael tocyn newydd erbyn diwedd y flwyddyn. Uchod gwelir Mair Benjamin a Pam Hughes, y ddwy wedi cael eu tocyn newydd wedi gwneud cais 4 wythnos yn ôl.

Mae Trafnidaeth Cymru yn gweithio gyda’r chynghorau lleol Gymru a Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r Cardiau Teithio Rhatach ar eu newydd wedd ar draws yr awdurdod erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019. Bydd y cardiau hyn yn dod yn cymeryd lle’r ‘cardiau bws’ sydd gan bobl ledled Cymru ar hyn o bryd.

Mae’r Cynghorydd Steve Davies wedi bod yn helpu trigolion lleol fel David a Sid uchod, ac mae sesiynau helpu i wneud ceisiadau yn swyddfa Plaid Cymru ar Heol y Wig a Llyfrgell y Dref yn Neuadd y Sir.

Mae’r cardiau ar eu newydd wedd yn cynnig yr un manteision a hawliau teithio am ddim â’r cardiau presennol. Mae’r cardiau newydd wedi cael eu dylunio i gael eu defnyddio fel rhan o rwydwaith teithio integredig yn y dyfodol.

Gallwch adnewyddu eich tocyn arlein drwy ddilyn y linc yma: –
https://tfw.gov.wales/cy/cerdynteithio