‘Goresgyn heriau trwy gydweithio’ – Sioe Llanilar

Crynhoi be sy’n wych a be sy’n her am drefnu sioe leol, ar drothwy cinio blynyddol Sioe Llanilar.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Nos Sadwrn daeth y criw gweithgar sy’n trefnu Sioe Llanilar ynghyd i’r cinio blynyddol, i gymdeithasu a dathlu blwyddyn arall o waith caled.

Ar drothwy’r cinio, Ann Lloyd y Cadeirydd fu’n edrych nôl dros flwyddyn heriol – rhwng y tywydd garw a’r equine flu – ac yn rhannu ambell air o gyngor defnyddiol allai helpu sioeau amaeth a digwyddiadau lleol eraill i barhau â’r gwaith pwysig o ddod â chymdeithas at ei gilydd…

 

Enw, a rôl gyda Sioe Llanilar:

Ann Lloyd, Cadeirydd

 

Ar ôl i’r criw o’ chi weithio’n galed gyda’r sioe eleni eto, wyt ti’n edrych mlaen i ddathlu ac ymlacio yn y cinio nos Sadwrn?

Ydw siŵr! Mae’n braf cael cyfle i ddathlu llwyddiant y sioe a chydnabod yn ffurfiol cyfraniad a gwaith ac ymroddiad aelodau’r pwyllgor, aelodau’r gymdeithas a ffrindiau’r sioe.

 

Be sy’n digwydd yn y cinio?

Bob blwyddyn mae siaradwr gwadd yn dod i’r cinio – y pwyllgor sy’n ethol neu’n cynnig cwpwl o enwau, ac wedyn mynd ati i estyn gwahoddiad.  Eleni, yr Athro Wynne Jones FRAG’s sydd yn dod atom, a dwi’n edrych ymlaen at glywed beth fydd ganddo i ddweud!

Yn y cinio mae canlyniadau’r cystadlaethau ‘Herd and Flock’ a ‘Grassland’ yn cael eu cyhoeddi. Yn ystod mis Medi mae’r rhain yn cael eu cynnal, lle mae’r beirniaid yn mynd o amgylch ffermydd yr ardal sy’n dewis cystadlu, ac felly mae tipyn o gyffro yn perthyn i’r darn yma’r noson.

 

Ble fyddwch chi’n ciniawa eleni?

Mae’r cinio eleni yn cael ei gynnal yn y Talbot, Tregaron. Ry’n ni’n symud bob blwyddyn o gwmpas gwestai a bwytai’r ardal – y rhai sydd yn hysbysebu yn y ‘schedule’. Mae’n ffordd o gefnogi busnesau lleol sy’n cefnogi’r sioe.

 

Pryd oedd sioe 2019, a sut aeth hi?

Mae’r sioe yn cael ei chynnal bob blwyddyn ar yr ail Sadwrn ym mis Awst – cafwyd sioe dda iawn eto eleni – mi o’n i’n Gadeiryddes balch a bodlon iawn!

 

A’r cwestiwn mae pawb yn ei ofyn – shwt oedd y tywydd?

Wel! I fod yn onest, roedd rhagolygon y tywydd tua wythnos/10 diwrnod cyn y sioe yn hunllefus! Roedd tipyn o sôn ar y newyddion, yn y papurau ac ar draws y gwefannau cymdeithasol am storm ddifrifol oedd yn mynd i gyrraedd a bwrw Cymru gyfan ar yr ail benwythnos ym mis Awst…………………cofio………….???!!!

Yn ystod wythnos y sioe cafwyd sawl digwyddiad ar draws Cymru, ac yn fwy lleol, eu canslo gan fod y rhagolygon a’r rhybuddion mor wael! Roedd tipyn o ‘hype’ yn perthyn i hyn i gyd, a gohebwyr yn ffonio i ofyn a oedd y sioe yn mynd yn ei flaen! Yna, buodd rhai cystadleuwyr a beirniaid yn cysylltu i weld os oedden ni am ganslo!

O’n i’n teimlo eitha rhwystredig mewn ffordd – a gorfod i mi roi rhyw fath o ddatganiad i’r wasg allan am y tywydd yn sôn am ein mesurau diogelwch a’n cynlluniau fel oedd y diwrnod yn agosáu!

Ta waeth, erbyn y dydd Sadwrn, roedd y tywydd wedi tawelu ac yn tipyn mwy ffafriol na beth oedd pawb wedi argoeli – rydym yn ffodus yn Llanilar bod y cae yn gysgodol iawn a’r ddaear yn galed. Cafwyd ambell gawod yn ystod y bore, ond ry’ ni di cael sioeau gwlypach!

Mae’r tywydd yn chwarae rhan mor bwysig i lwyddiant y dydd, fel pob sioe arall ar draws y wlad, yn enwedig wrth geisio denu ymwelwyr i’r sioe a’r rhai sydd ddim yn cystadlu – mi ddown nhw am dro os di’n sych!    

 

Heblaw am y tywydd, beth oedd yr heriau mwyaf i gynnal y sioe eleni?

Yr ‘equine flu’. Tipyn o boen pen a gweud y gwir. Doedd dim canllawiau pendant gan Lywodraeth Cymru na chyrff proffesiynol milfeddygol ac ati, ac roedd hi’n ddiddorol gweld sut a beth oedd sioeau eraill yn ceisio ei wneud er mwyn atal yr haint yma rhag lledaenu.

Ond hefyd i ni, mae adran y ceffylau yn atyniad mawr yn y sioe, gyda’r nifer fwya o gystadleuwyr, a doedd rhywun chwaith ddim eisiau gorfod gwneud unrhyw benderfyniad a fydde’n niweidiol i lwyddiant y sioe.

 

Oes ‘da chi yn Llanilar enghraifft o sut ry’ch chi’n dod dros heriau, allech chi eu rhannu gyda phobol sy’n trefnu digwyddiadau lleol tebyg?

Yn sgil yr equine flu, mi es i ati i gysylltu gyda Chadeiryddion sioeau lleol gogledd Ceredigion i weld beth oedd eu teimladau nhw am y ffliw a beth oedd eu bwriad nhw, gan esbonio bo fi’n teimlo y bydde gwerth, os oedd modd, ceisio cael consensws gyda’n gilydd ar y mater yma, a’n bod ni i gyd yn cyfleu yr un neges.

Mi wnes i greu rhestr o fesurau diogelwch (bio security) ac fe benderfynwyd defnyddio’r rhain ym mhob un o’r sioeau. Fe weithiodd hyn yn dda, ac mae’n rhywbeth efallai y gallwn hyrwyddo a datblygu yn y dyfodol, a chael mwy o gydweithio, gobeithio.

 

Ers pryd mae’r sioe yn mynd?

Fe ddathlwyd 100 mlynedd yn 2004 (felly mae’r Sioe yn 115 oed).

 

Beth mae pwyllgor sioe fach yn ei wneud?

Mae tua 30 aelod ar ein pwyllgor ni, a rhyw 20 yn mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd. Trawsdoriad o wahanol fobol o ardal Llanilar o gefndiroedd gwahanol sydd yn y pwyllgor – pobol o wahanol oedran, gwahanol ddiddordebau (sydd yn beth braf), a chynrychiolaeth dda o’r gymdeithas. Y pwyllgor sydd ynghlwm â’r gwaith trefnu i gyd – pob agwedd ar y sioe – ac mae tipyn o waith yn gysylltiedig â threfnu sioe o’r maint yma!

 

Pa mor aml ydych chi’n cwrdd?

Ni’n cwrdd tua unwaith y mis. Heblaw am amser wyna – dy’n ni ddim yn cwrdd yn mis Mawrth!

 

Ydych chi’n llwyddo i gael pobol newydd i gymryd rhan yn y sioe?

Yn yr AGM mae enwau ar gyfer aelodau newydd yn cael eu dewis a’u dethol. Yn ddelfrydol, hoffwn weld mwy o fobol ifanc yn rhan o’r pwyllgor, ond mae bywyd yn brysur ac amser yn bring!

Mae cwpwl o aelodau newydd wedi bod yn frwdfrydig iawn, ac mae hyn wedi bod yn galonogol iawn i’w weld – eisiau adeiladu ar hyn sydd ac annog aelodau ifanc eraill i ymrwymo. Rydym hefyd yn awyddus i recriwtio stiwardiaid newydd, felly petai rhywun â diddordeb, cofiwch gysylltu!

Dwi hefyd yn gobeithio y bydd tipyn o gydweithio rhwng y sioe a Chlwb Ffermwyr Ifanc Llanilar sydd ar fu’n cael ei ail-sefydlu.

 

Beth sy’n gwneud Sioe Llanilar yn wahanol i sioeau eraill?

Efallai mai hanes a lleoliad sioe Llanilar sydd yn neud hi’n wahanol i sioeau eraill. Mae’r safle’r sioe ar gaeau ‘stad Castle Hill yn ganol y pentre yn un godidog a chysylltiad y teulu Loxdale yn rhan annatod o’r sioe, ac mae’r cysylltiad teuluol yn parhau i fod mor gryfed ag erioed.

 

Beth sy’n eich gwneud chi’n debyg i sioeau bach eraill?

Mae Sioe Llanilar yn debyg i sioeau eraill gogledd Ceredigion. Yr un math o gystadlaethau sy’n cael eu cynnig, a dilyn yr un fath o batrwm mae’r dydd, a’r un bobol sy’n mynychu’r sioeau i gyd er mwyn cystadlu! Mae yr un peth â’r ‘cythrel canu’ mewn eisteddfod yn dydy?! Yr un ydy’r awch i ennill y wobr gynta’ a’r rosette coch!

 

Oes rhywbeth chi’n arbennig o falch ohono am Sioe Llanilar?

I fi’n bersonol, dwi’n falch iawn o fod yn gadeirydd y sioe. Mae’ nghysylltiad gyda’r sioe wedi bod dros gyfnod o rhyw 15 mlynedd. Bues i a’n ffrind, Tracy Deakins, Penlan, yn gyd-ysgrifennyddion yn 2004 am 3 mlynedd, a dwi di bod yn is-gadeirydd ers 5 mlynedd, cyn cael fy ethol yn Gadeirydd eleni.

Bu rhieni’r gŵr yn gysylltiedig â’r sioe am sawl blwyddyn, ac maen nhw’n parhau i fod, fel casglwyr dros ardal Llangwyryfon. Bu William yn Gadeirydd am sawl blwyddyn yn ystod y 90au a Wendy yn gyd-ysgrifennydd gyda’i ffrind a’n cymydog, Ada Evans, Rhosgoch. Felly, mae’n braf cael dilyniant o fewn y teulu, sy’n rhannu’r un diddordeb.

Yn sioe Llanilar hefyd, tua 20 mlynedd yn ôl enillodd dad ei wobr gynta’ gyda’i gaseg Adran D, ‘Redwood Calon Prydferth’ – a mynd am beint wedyn yn y Falcon i ddathlu ei lwyddiant!

Wrth wirfoddoli a chydweithio o fewn cymdeithas mae rhywun yn teimlo elfen o berthyn, ac mae’r sioe wedi fy ngalluogi i neud ffrindiau a chysylltiadau eang ar draws yr ardal a thu hwnt.

 

A… pryd chi’n dechrau trefnu sioe y flwyddyn nesa?!

Mae gwaith trefnu’r sioe 2020 yn cychwyn o ddifri yn ein cyfarfod ym mis Tachwedd, lle byddwn yn trafod a dewis yr holl feirniaid. Mae’r gwaith trefnu yn ddiddiwedd ond rydym mor ffodus i gael tîm arbennig sy’n gweithio’n ddiflino ac yn rhoi eu hamser ac ymroddiad er mwyn sicrhau llwyddiant y sioe o un flwyddyn i’r llall.

Siŵr gen i mae Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020 fydd yr her nesa i Sioe Llanilar – ond bydd honna’n stori arall!!!

 

Menna Hughes, Tancwarel, yn ennill y gystadleuaeth Praidd Pedigrî yn y cinio neithiwr.
Rhai o griw gweithgar Sioe Llanilar yn mwynhau yn y cinio!