Oes ffigwr turnout eto?
Blog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.
- Mwyafrif o dros 6,300 i Ben Lake yng Ngheredigion
- Y Torïaid yn dod yn ail
- Mark Williams yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto. “mae 20 mlynedd yn eitha’ digon” meddai.
Dw i wir argymell dilyn blog byw @Bro__360 o cownt Aberaeron i unrhyw un sy'n dilyn canlyniad Ceredigion. Dw i'n teimlo'n sâl.
— Nia Naseem (@stonecypher) December 12, 2019
Dwi'n byw drwyddo fo ar hyn o bryd. Noson hunllefus. Rhywfaint o gysur yng ngobeithion y blaid mewn ambell sedd a'r Alban yn edrych yn addawol. Ond dal yn hunllef o noson.???
— cefin roberts (@cefinroberts) December 13, 2019
Mae’ch pleidleisiau wedi cael eu dilysu ac maent nawr yn cael eu cyfri! pic.twitter.com/TrwvPoVOyu
— Cyngor Ceredigion (@CSCeredigion) December 13, 2019
Amanda Jenner o’r Ceidwadwyr wedi cyrraedd! Edrych fel bod cefnogaeth dros y Ceidwadwyr yn gryf tro yma.
Cyhoeddi’r turnout yma yng Ngheredigion:
71.34%
Yn 2017, y ganran oedd 75.2%.
COME ON BEN!!!! https://t.co/exJWzpCNV1
— SΔM ??????? (@TwmbarlwmSam) December 13, 2019
Cofiwch os da chi'n byw yn Arfon neu Ceredigion bod @Bro__360 yn cynnal blogau byw.
Dilynwch y cwbl ar #etholiad360 https://t.co/XwS1q8bsKy
— golwg360 (@Golwg360) December 13, 2019
Reit, co ni off.
Mae’r bocsys i gyd mewn, a nawr mae’r cyfri go iawn yn dachre.
Tasen ni ddim yn dod â’r blog byw ma i chi, bydden i’n awgrymu bo chi’n mynd am nap am rhyw awr a hanner, a dihuno tua 2 am y canlyniad.
Ond peidiwch â gadael ni! Bwyd sy angen, i gadw fynd. Beth yw’ch midnight feast chi heno?!
Crisps a Haribos sy da Caleb!
Diolch Arthur, falch bo ti’n mwynhau’r cyfrej!
Un llygad ar y teli, y llall ar hwn Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion – BroAber360 https://t.co/f1za6koPHS
— Arthur Dafis (@arthurdafis) December 13, 2019
Un llygad ar y teli, y llall ar hwn Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion – BroAber360 https://t.co/f1za6koPHS
— Arthur Dafis (@arthurdafis) December 13, 2019