Etholiad 2019 – Blog byw o’r cownt yng Ngheredigion

gan Caleb Rees

Blog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.

  • Mwyafrif o dros 6,300 i Ben Lake yng Ngheredigion
  • Y Torïaid yn dod yn ail
  • Mark Williams yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto. “mae 20 mlynedd yn eitha’ digon” meddai.

00:38

00:37

Reit, co ni off.

Mae’r bocsys i gyd mewn, a nawr mae’r cyfri go iawn yn dachre.

Tasen ni ddim yn dod â’r blog byw ma i chi, bydden i’n awgrymu bo chi’n mynd am nap am rhyw awr a hanner, a dihuno tua 2 am y canlyniad.

Ond peidiwch â gadael ni! Bwyd sy angen, i gadw fynd. Beth yw’ch midnight feast chi heno?!

Crisps a Haribos sy da Caleb!

Mae’r sylwadau wedi cau.

00:31

Diolch Arthur, falch bo ti’n mwynhau’r cyfrej!

 

Hywel Llyr Jenkins
Hywel Llyr Jenkins

Mae’r blog yn wych. Diolch Caleb a BroAber360

Lowri Jones
Lowri Jones

Caleb yn dweud diolch!

Mae’r sylwadau wedi cau.

00:30

00:25

00:23

 

00:19

Tom Kendall – un o brif ymgyrchwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion – yn cyfaddef bod y noson yn “dorcalonnus” iddyn nhw yma.

“Ro’n ni’n positif ar ddechrau’r ymgyrch, ti’n gwbod, ond yn glou iawn doedd pethau ddim yn mynd yn dda iawn”.

Dyma ni i Mark Williams, medde fe. Mae’n annhebygol iawn y bydd e’n sefyll eto.

Dyw Mark heb gyrraedd y cyfrif yma eto, ac ry’n ni’n dal i ddisgwyl gweld Ben Lake ac Amanda Jenner.

00:12

“In my heart, Ben is my MP”

Dyna argraffiadau un o dîm y Gwyrddion.

00:09

Penparcau! Y blwch olaf i ddod mewn!

23:57

Caleb o’r cownt