Disgyblion lleol yn rhedeg y Trawsgwlad

Disgyblion y fro yn cymryd rhan yn y ras flynyddol.

Daniel Johnson
gan Daniel Johnson

Bu disgyblion ysgolion cynradd Cylch Aberystwyth yn cymryd rhan yn y ras flynyddol Trawsgwlad ddoe, ar gwrs newydd ar safle’r Ysgol Gymraeg.

Mae’r ras ar agor i ddisgyblion o flynyddoedd 3-6, a dyma luniau o rai o’r rhedwyr ifanc.