‘Dim newid’ mewn cynllun amgylcheddol

Mae ffermwr lleol amlwg wedi gwrthod honiad pennaeth y prosiect amgylcheddol O’r Mynydd i’r Môr nad cynllun ailwylltio yw e.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ffermwr amlwg yn gwadu honiadau pennaeth O’r Mynydd i’r Môr

Mae ffermwr lleol amlwg wedi gwrthod honiad pennaeth y prosiect amgylcheddol O’r Mynydd i’r Môr nad cynllun ailwylltio yw e.

“Maen nhw’n dweud un peth wrth un gynulleidfa, a rhywbeth arall wrth y llall,” meddai Dafydd Morris-Jones o Ysbyty Cynfyn, ger Ponterwyd, un o’r ffermwyr sy’n gwrthwynebu’r prosiect.

Roedd yn cyhuddo trefnwyr y prosiect o esgus “cyfaddawdu” ar ôl i un o’r prif bartneriaid lleol droi cefn arno – doedd dim wedi newid, meddai.

‘Ffermwyr yn camddeall’

Roedd Dafydd Morris-Jones yn ymateb i gyfweliad gan Melanie Newton ar y BBC pan ddywedodd fod ffermwyr lleol yn “camddeall” y cynllun.

Fe ddaeth y sylwadau yn sgil penderfyniad Bwrdd Rheolwyr Ecodyfi i adael y cynllun gan ddweud nad oedd digon o feddwl am yr effaith ar gymunedau lleol.

Mae arwyddion protest wedi cael eu codi yn yr ardal hefyd yn gwrthwynebu.

Dim cyfaddawd

“Ers y cychwyn, maen nhw wedi glynu wrth yr un cynllun o hyd, heb newid dim,” meddai Dafydd Morris-Jones. “Does dim  cyfaddawd mewn gwirionedd.

“Maen nhw’n dweud nad ydyn nhw am ailwylltio, ond eu prif bartner yw Dad-ddofi Prydain [Rewilding Britain], ac mae hwythau’n nodi ar eu gwefan pa mor ganolog yw prosiect O’r Mynydd i’r Môr i’w gwaith a’u gweledigaeth nhw.

Roedd yn cyfeirio hefyd at gyfweliad gyda Chyfarwyddwr Dad-ddofi Prydain, Alistair Driver, yn y cylchgrawn Inside Ecology, lle mae’n sôn am lenwi ffosydd, ailgysylltu gorlifdiroedd a phlannu coed a denu eco-dwristiaid.

Yn ôl Dafydd Morris-Jones, roedd hynny’n dangos y byddai eco-dwristiaeth yn dibynnu ar gael gwared ar dir amaethyddol yn barhaol.

Mae golwg360 wedi cysylltu â phrosiect O’r Mynydd i’r Môr am ymateb i’w sylwadau.

Beth ddywedodd Melanie Newton

“Nage prosiect ailwylltio yw hwn – mae pob math o bethau eraill yma,” meddai Melanie Newton wrth BBC Cymru. “Mae’r gair ailwylltio yn anodd iawn ac yn golygu lot o wahanol bethau i wahanol bobol.

“I ni fan hyn sicrhau’r amgylchedd yw e i ni ac nid meddwl am ailwylltio a dod ag anifeiliaid yn ôl. Dyw hynny ddim yn bwysig i ni a dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd.”