CFfI Ceredigion – YN FYW o’r Steddfod

Aelodau CFfI Ceredigion sy’n dod â holl hwyl #steddfodcardi yn fyw o Bafiliwn Bont.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’n ddiwrnod Steddfod y Clybie yng Ngheredigion, a thrwy gydol y dydd bydd yr aelodau’n dod â’r diweddara o’r digwyddiad – o ganlyniadau i luniau, o gyfweliadau i farn y beirniaid answyddogol, ar y blog byw yma ar wefan fro newydd sbon BroAber360.

Uchafbwyntiau:

  • Clwb Pontsian gipiodd y Steddfod, yr adran lwyfan a’r adran gwaith cartref
  • Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog enillodd y Gadair a’r Goron
  • Heledd Besent yn cipio tair gwobr ac Unawdydd Gorau’r Steddfod
  • Yr aelodau’n cydio yn y cyfle i ‘ddarlledu’ eu steddfod trwy greu a chynnal y blog byw yma!

00:50

Ma nhw, y criw buddugol!

00:50

Heledd yn cipio cwpan unawdydd gorau’r sir ‘leni? llongyfarchiadau, llond haeddianol?

Posted by C.Ff.I Mydroilyn on Saturday, 2 November 2019

00:42

Llongyfarchiadau, Shanis!

Llongyfarchiadau enfawr i enillwyr #steddfodcardi eleni sef….Pontsian!!

Posted by Cffi Ceredigion Ceredigion Yfc on Saturday, 2 November 2019

23:30

Y Parti Deusain buddugol, Llanwenog, o lawr y llwyfan!

23:25

23:25

? CANLYNIADAU TERFYNOL EISTEDDFOD CFFI CEREDIGION 2019 ?

9fed – Clybiau Llanddewi Brefi a Thal-y-bont

8fed – Clwb Lledrod

7fed – Clwb Bro’r Dderi

6ed – Clwb Mydroilyn

5ed – Clwb Llangwyryfon

4ydd – Clwb Caerwedros

3ydd – Clwb Felinfach

2il – Clwb Llanwenog

1af – Clwb Pontsian

***

Bydd manylion y cystadlaethau fydd yn mynd mlaen i Gymru yn cael eu cyhoeddi’n fuan gan CFfI Ceredigion.

23:22

CANLYNIAD ADRAN Y LLWYFAN

1af – Clwb Pontsian

2il – Clwb Llanwenog

3ydd – Clwb Felinfach

23:22

? CANLYNIADAU TERFYNOL EISTEDDFOD CFFI CEREDIGION 2019 ?

Gwaith Cartref

3ydd – Felinfach

2il – Clwb Llanwenog

1af – Clwb Pontsian

Adran Ysgafn

3ydd – Llanwenog

2il – Clwb Felinfach

1af – Clwb Pontsian

23:18

? CANLYNIAD – Y CÔR ?

Yn canu ‘Ein Halaw Ni’

1af – Clwb Pontsian

2il – Clwb Felinfach

3ydd – Clwb Caerwedros

23:11

? CANLYNIAD – LLEFARYDD GORAU ?

Nest Jenkins, Clwb Lledrod