CFfI Ceredigion – YN FYW o’r Steddfod

Aelodau CFfI Ceredigion sy’n dod â holl hwyl #steddfodcardi yn fyw o Bafiliwn Bont.

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae’n ddiwrnod Steddfod y Clybie yng Ngheredigion, a thrwy gydol y dydd bydd yr aelodau’n dod â’r diweddara o’r digwyddiad – o ganlyniadau i luniau, o gyfweliadau i farn y beirniaid answyddogol, ar y blog byw yma ar wefan fro newydd sbon BroAber360.

Uchafbwyntiau:

  • Clwb Pontsian gipiodd y Steddfod, yr adran lwyfan a’r adran gwaith cartref
  • Twm Ebbsworth o Glwb Llanwenog enillodd y Gadair a’r Goron
  • Heledd Besent yn cipio tair gwobr ac Unawdydd Gorau’r Steddfod
  • Yr aelodau’n cydio yn y cyfle i ‘ddarlledu’ eu steddfod trwy greu a chynnal y blog byw yma!

23:10

? CANLYNIAD – UNAWDYDD GORAU  ?

Heledd Besent, Clwb Mydroilyn

23:08

? CANLYNIAD – SGETSH ?

1af – Clwb Pontsian

2il – Clwb Llanddewi Brefi

3ydd – Clwb Llanwenog

23:07

? CANLYNIAD – PARTI DEUSAIN ?

1af – Clwb Llanwenog

2il – Clwb Pontsian

3ydd – Clwb Tal-y-bont

23:05

? CANLYNIAD – DEUAWD NEU DRIAWD DONIOL ?

1af – Dion, Fflur a Rhys o Glwb Llangwyryfon

2il – Jano a Ceris o Glwb Caerwedros

3ydd – Angharad a Heledd o Glwb Mydroilyn, ac Endaf a Gwenyth o Glwb Pontsian

22:52

Endaf a Gwenyth o Glwb Pontsian yn trafod eu deuawd doniol – joio’r dillad a’r mêc-up!

22:26

22:20

? CANLYNIAD – SGEN TI DALENT ?

1af – Clwb Pontsian

2il – Clwb Llanddewi Brefi

3ydd – Clybiau Felinfach a Chaerwedros

22:20

22:18

Tregaron wrthi ar y Sgets.

22:17

? CANLYNIAD GWAITH CARTREF – LIMRIG ?

1af – Endaf Griffiths, Clwb Pontsian

2il – Dion Davis, Clwb Llangwyryfon

3ydd – Siriol Teifi, Clwb Pontsian