Ddydd Sadwrn, 4ydd Ionawr, daeth grwpiau heddwch a chyfiawnder ledled Cymru ynghyd tu allan i dros 11 ysbyty yng Ngymru i sefyll i ddangos cefnogaeth i weithwyr iechyd yn Gaza. Mae’r gweithwyr hyn wedi dioddef ymosodiadau didostur gan fyddin Israel dros y 15 mis diwethaf, gan ddinistrio llawer o gyfleusterau iechyd Gaza a lladd dros fil o weithwyr iechyd.
Ddiwedd Rhagfyr, yn dilyn wythnosau o fomio di-baid, dinistriwyd ysbyty Kamal Adwan yn llwyr, gan adael gogledd Gaza heb gyfleuster iechyd gweithredol. Ymhlith y staff a’r cleifion a arestiwyd, cipiodd yr IDF Gyfarwyddwr Meddygol yr ysbyty, Dr Hussam Abu Safia. Cafodd ei drosglwyddo i wersyll caethiwo erchyll Sde Teiman, lle cafodd meddyg Palesteinaidd arall, Dr Adnan Al Bursh, ei arteithio i farwolaeth.
Rydym mor lwcus o gael ysbyty yma yn ein tref ni, ac yn gwerthfawrogi ein gweithwyr iechyd. Daeth rhai o staff y Gwasanaeth Iechyd – gweithwyr presennol a rhai wedi ymddeol – i ymuno yn yr wylnos tu allan i Ysbyty Bronglais bnawn Sadwrn, gan wneud cynulliad o 75 (gyda 76 o hwtiadau cefnogol gan geir oedd yn pasio). Gan nad oeddem am darfu ar gleifion a staff yr ysbyty, cerddodd rhai o’r cefnogwyr i lawr i Sgwâr Owain Glyndŵr i glywed araith y Cynghorydd Alun Williams a darllenwyd datganiad gan Ben Lake (oedd yn methu bod yno).
Yn dilyn llythyr a anfonwyd ddiwedd Tachwedd 2023 yn mynnu cadoediad parhaol ac ar unwaith, anfonwyd un arall at Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ar 14 Rhagfyr 2024. Roedd y llythyr hwn yn galw ar y Deyrnas Unedig i roi’r gorau ar unwaith i anfon arfau ac offer milwrol i wladwriaeth Israel, gan nodi bod hynny’n glir yn erbyn Meini Prawf Trwyddedu Allforio Strategol.
Dywedodd Alun Williams fod adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig, a gyhoeddwyd nos Galan, ‘Attacks on hospitals during the escalation of hostilities in Gaza’ yn dangos patrwm bwriadol yr IDF wrth ddinistrio ysbytai ac ardaloedd lle mae sifiliaid wedi eu dadleoli.
Datganiad Ben Lake:
“Mae dros 45,000 o bobl wedi eu lladd [a thipyn mwy na hynny erbyn hyn] yn Llain Gaza ers Hydref 2023, gyda bron i 70% o’r rhai a laddwyd yn fenywod a phlant.
Dros 45,000 o bobl. Miloedd o rieni, o frodyr a chwiorydd, o ferched a meibion, o deuluoedd wedi eu lladd. Mae 45,000 yn gyfystyr â dros hanner poblogaeth Ceredigion yn cael eu llofruddio mewn ardal sydd ddim mwy nag un rhan o bump o faint y sir.
Does dim modd dychmygu’r erchyllterau y mae pobl Gaza yn eu dioddef yn ddyddiol. Ond oherwydd hynny mae mor bwysig ein bod ni’n parhau i wrthdystio, i godi ein llais mewn gwrthwynebiad i’r hil-laddiad.
Amcangyfrir bod 80% o’r rhai a laddwyd yn Gaza wedi eu llofruddio mewn eiddo domestig, a bod safleoedd isadeiledd sifilaidd – ysgolion, ysbytai a chanolfannau cymorth – yn cael eu taro gan arfau ffrwydrol ar gyfartaledd unwaith pob 3 awr. Cymaint yw maint y dinistr fel bod y Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio bod ymosodiadau Israelaidd yn achosi chwalfa lwyr i ofal iechyd yn Gaza.
Mae adeiladau a ddylai fod, yn unol â chyfraith ryngwladol, yn llochesi i sifiliaid yn cael troi’n drapiau marwol. Mwy na hynny, mae cannoedd o weithwyr iechyd wedi cael eu cadw yn y ddalfa gan yr IDF, gan amddifadu pobl o ofal iechyd critigol.
Wrth i’r erchyllterau gynyddu, y mae perygl gwirioneddol bod sylw y byd yn lleihau fel mae’r adroddiadau am y nifer sy’n cael eu lladd yn ddyddiol yn cael eu gollwng o’r penawdau. Dyna pam mae hi mor bwysig ein bod yn dal i brotestio, i wneud yn siŵr nad yw pobl yn tynnu eu llygaid oddi ar y bêl. Mae gormod o amser wedi ei golli yn barod, gormod o deuluoedd wedi marw a bywydau wedi eu dinistrio. Mae’n ddyletswydd arnom i gario mlaen gyda’n galwad ar i’n Llywodraeth weithredu i gynnal cyfraith ryngwladol a stopio’r hil-laddiad.”