Cân Ysgol Llangwyryfon

Lansiad swyddogol y gân

gan Eleri Jewell
IMG_5633-1Meleri Jones

Dwrgi ap Dwrgi (Rhodri ap Hywel) a Meleri Williams

IMG_5631-1Meleri Jones

Cynulleidfa cystadleuol a chefnogwyr brwd

IMG_5632-1Meleri Jones

Dwrgi ap Dwrgi cyflwyno pysgodyn i Owen

IMG_5635-1Meleri Jones

Sêr y gân a’r noson

IMG_5636-1Meleri Williams

Clawr Cân Ysgol Llangwyryfon

Mae enw Llangwyryfon wedi bod ar wefusau pawb yn ddiweddar. Ond o hyn ymlaen, bydd Llangwyryfon yng nghlustiau pawb hefyd! Pam hynny? Am fod cân newydd sbon gan ddisgyblion Ysgol Llangwyryfon newydd gael ei lansio. Mae’r gân yn llawn cariad at yr ysgol â’i chymuned, at ffrindiau, at Gymreictod cynhenid digymell, at hwyl, ac at bopeth cefn gwlad! Meleri Williams gyfansoddodd y geiriau a’r gerddoriaeth – wedi ei hysbrydoli gan y plant, a chan yr ysgol a’r gymuned.

Cynhaliwyd noson garped coch i ddadorchuddio fersiwn llawn y gân, a’r fideo sy’n cyd-fynd â hi. Wedi cymryd pob cyfle i wenu ac ystumio ar gyfer y camerâu yn eu harddwisgoedd swanc, yn disgwyl y gwesteion y tu mewn roedd Person Pwysig Iawn y noson – Dwrgi ap Dwrgi, yr arch-gwis-feistr! Gyda’r amryddawn Meleri Williams yn arwain y noson, roedd y neuadd dan-ei-sang. Cafwyd noson lawn hwyl a sbri, gyda thimoedd cymysg o oedolion a phlant yn cystadlu i weld pwy allai guro gwybodaeth wyddoniadurol Dwrgi am ffilmiau – a’r ddau a ddaeth i’r brig yn mynd ben-ben i dorri’r ddadl!

Ond heb os, uchafbwynt y noson oedd lansiad y gân, a’r disgyblion yn serennu ar y sgrîn fawr. Roedd pawb yn ysu am gael ei lawrlwytho o wefan llangwyryfon.net. Mae’r adborth wedi bod yn wych – nid yn unig yn canmol canu’r plant, ymroddiad y staff, a thalent Meleri – ond hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd a gwerth gwaddol byw ysgol fach wledig Llangwyryfon. Diolch enfawr i bawb sydd eisoes wedi gwrando, rhannu, prynu a mwynhau’r gân.

Diolch yn fawr i bawb a fu ynghlwm wrthi am noson wych, am gwmni a chefnogaeth y dorf a’r plant, ac am holl waith trefnu’r staff a’r pwyllgor rhieni ac athrawon. Diolch i Meleri Jones am gofnod ffotograffig o’r noson, ac mae’r diolch mwyaf yn mynd i Meleri a Rhodri Garnfach. Cadwch olwg ar dudalen Facebook Lleisiau Llangwyryfon, bydd mwy o fideos yn dod yn fuan.

Cofiwch, os hoffech roi eich barn ar ddyfodol yr ysgol – mae Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn ymatebion i’r ymgynghoriad statudol hyd at y 3ydd o Ragfyr.

Dweud eich dweud