Siop newydd i Aberystwyth

Menyw leol yn mentro agor siop newydd yn y dre

gan Richard Owen
FullSizeRender

Mae Nicola Griffiths o Benrhyn-coch yn bwriadu agor siop newydd i werthu lampau a ‘lampshades’ yn Stryd y Porth Bach, Aberystwyth ddechrau mis Tachwedd.

Fe fu gan Nicola stondin yn yr hen Swyddfa Bost yn y Stryd Fawr fel rhan o gynllun Antur Cymru pryd yr enillodd wobr am Fusnes Manwerthu Newydd. Bydd y cam hwn yn gyfle i ehangu busnes sy’n mynd o nerth i nerth.

 

Dweud eich dweud