Sioe bach ddifyr!

Digon o amrywiaeth yn sioe flynyddol Penrhyn-coch

gan Richard Owen
IMG_20240818_121112-2
IMG_20240817_150053-1Gwenan Price

Elsie Morgan

IMG_20240817_150026-1Gwenan Price

Daniel Huws

Cynhaliwyd Sioe flynyddol Penrhyn-coch bnawn dydd Sadwrn diwethaf, 17 Awst, yn Neuadd y Penrhyn. Sioe Arddwriaethol yw ei theitl crand, swyddogol ond mae amrywiaeth mawr o bethau i’w gweld yno, gan gynnwys blodau, llysiau, ffrwythau, cacennau, crefftau, gwaith llaw a ffotograffau, a cheir adrannau ar gyfer plant hefyd. Fel bob blwyddyn roedd hi’n ddifyr iawn crwydro’r Neuadd yn edrych ar yr holl gynnyrch a chael sawl sgwrs gyda hwn a’r llall.

Y llywyddion eleni oedd Owen a Caryl Roberts, Pen-bont Rhydybeddau. Caryl yw cynghorydd Trefeurig ar Gyngor Sir Ceredigion ac Owen yw Prif Weithredwr Plaid Cymru. Maent yn byw ym Mhen-bont ers sawl blwyddyn bellach gyda’r plant Alun, Gwern a’r ddwy efaill Gwenllian a Tirion.

Dau o’r ffotograffau a welwyd yn y sioe a ddangosir yma. Roeddynt mewn cystadleuaeth a noddid gan bapur bro Y Tincer, sef ffotograff yn portreadu person neu le o ardal Y Tincer. Gwenan Price yw’r ffotograffydd, ac maent yn darlunio dau o gymeriadau’r Penrhyn.

Mae Elsie Morgan yn enedigol o’r ardal a bu’n rhedeg cwmni bysiau lleol am flynyddoedd gyda’i gŵr Morris. Mae wedi ymddeol bellach ond yn dal yn weithgar yn y pentref.

Llun o Daniel Huws yw’r llall. Bu am flynyddoedd ar staff y Llyfrgell Genedlaethol ac ef yw’r awdurdod pennaf ar lawysgrifau Cymru. Daeth ef a Helga ei wraig i’r pentref tua 60 mlynedd yn ôl ac yma y magwyd y plant. Bu yntau’n weithgar iawn yn yr ardal ar hyd y blynyddoedd. Dathlodd ei ben blwydd yn naw deg ddwy flynedd yn ôl, ac er nad yw ei olygon cystal ag y buont, mae i’w weld yn gyson yn cerdded llwybrau cyfarwydd.