Sioe Aberystwyth 2024

Tywydd yn gwella

Mererid
gan Mererid

Mae tywydd yn gwella ar Gelli Angharad. Dewch draw i’r Sioe. Yma tan 5.

13:47

IMG_20240608_134128435_HDR

Gwobr arbennig 12 I Dai George o Fwlchygroes, sir Benfro. Llongyfarchiadau mawr

13:36

Taith y cerbydau vintage

13:25

Tywysydd ifanc

Rhwng 3 a 8 mlwydd oed

1af – Eric Evans, Gors Neuadd, Tregaron 

2il – Simeon Walker, Kingston

Rhwng 8 a 12 mlwydd oed

1af – Cornelius Walker, Kingston

Rhwng 12 a 16 mlwydd oed

1af – Leah Cartwright, Tre Ddol

13:18

Gwobr arbennig 14

12:57

Beirniadu cŵn

12:51

Ceir

12:50

Gwneud sment

12:17

Mwy o geffylau 

12:00

Cobiau Cymreig (Adran D)

Colt blwydd

1af – Berry Baker, Whitewalls

Ffili neu gelding blwydd

1af – Aled a Sara Thomas, Penparcau

2il – Matthew Howells, Caerfyrddin 

3ydd – Coed y gof, Tregaron

Colt 2 neu 3 blwydd

1af – Evans, Cefnllwynpiod, Ystwyth

Ffili neu gelding 2-3 oed

1af – Matthew Dixon, New Foundry, Aberaeron

Caseg 4 blwydd neu fwy

1af – Gwyn Jones, Frongoy, Aberystwyth 

2il – Mirain Richards, Dolcoed, Aberystwyth 

3ydd – Iola James Morris, Ger y Ffynnon, Aberystwyth 

4ydd – Julia Rosiak, Yr Efail, Llanon

Stalwyn 4 oed a mwy

1af – Jones, Rhydeilian

11:50

IMG_20240608_114559701_HDR

Stacey Buckley yn mynd a gwobr am y palomino gorau i Lanbedr Pont Steffan. Llongyfarchiadau eto