Sefyll dros Balesteina

gan Sue jones davies

Mewn ymateb i’r alwad am ddiwrnod “Boicot Cymru Cyfan” ar gyfer Palesteina, ymgasglodd llawer o grŵpiau yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, 9fed o Fawrth.

Roedd y rhain yn cynnwys Solidariaeth Palesteina Bro Ddyfi, Merched mewn Du, Cymdeithas Sosialaidd Prifysgol Aberystwyth a Chôr Gobaith Aberystwyth.

Y nod oedd tynnu sylw at rym boicot fel strategaeth o wrthwynebiad i apartheid Israel ym Mhalesteina.

Fe wnaethon nhw ymgynnull o flaen Banc Barclays gan ei fod yn brif darged yn Aberystwyth ar gyfer boicot. Roedd hynny oherwydd bod y banc hwn yn buddsoddi cymaint mewn arfau rhyfel Israel.

Safodd pawb mewn distawrwydd am 15 munud cyn rhannu’n grŵpiau i ymweld â’r archfarchnadoedd, gan ofyn i siopwyr ystyried boicotio nwyddau Israel a chefnogi’r rhai o Balesteina.