Rhedeg i gefnogi HAHAV Ceredigion

Cefnogwr elusen leol yn anelu at redeg pedair ras mewn pedair wythnos

gan Deian Creunant
Deian-Creunant

Mae un o ymddiriedolwyr elusen leol yn anelu at redeg pedair ras mewn pedair wythnos i helpu i gefnogi a datblygu gwasanaethau hollbwysig y sefydliad.

Mae Deian Creunant yn aelod o fwrdd HAHAV Ceredigion, yr elusen leol sy’n darparu hosbis yn y cartref, ac mae’n gobeithio codi arian i helpu’r elusen i ddiogelu a datblygu ei gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

Y ras gyntaf fydd hanner marathon Llyn Efyrnwy ar y 15fed o Fedi, ac yna 10k Dale yn Sir Benfro, hanner marathon Caerdydd ac yn olaf Ras Dau Gopa Aberystwyth.

Fel aelod cymharol newydd o fwrdd HAHAV Ceredigion, mae Deian yn teimlo bod gwasanaethau’r elusen yn hollbwysig i’r sir:

“Dwi wastad wedi bod yn ymwybodol o waith yr elusen, ond yn ystod fy nghyfnod fel aelod o’r bwrdd rwyf wedi gwerthfawrogi’n fwyfwy ehangder y gwasanaethau a gynigir a pha mor werthfawr yw ei chefnogaeth i unigolion ar draws Ceredigion.

“Mewn sir lle nad oes gwasanaeth hosbis cydnabyddedig, yr unig sir yng Nghymru lle mae hynny’n wir, mae’r gwasanaeth a ddarperir gan wirfoddolwyr HAHAV Ceredigion yn cynnig cwmnïaeth a chymorth ymarferol ar adegau heriol ym mywydau pobl.

“Yn anffodus mae’r galw am wasanaethau yn cynyddu’n gyson. Ac rydym nawr yn wynebu sefyllfa lle mae angen i ni fuddsoddi yn ein hisadeiledd er mwyn i ni allu parhau i ddarparu gwasanaethau hosbis yn y cartref y mae mawr eu hangen.”

Mae Deian yn aelod o glwb athletau Aberystwyth a bydd y profiad hwnnw’n siŵr o fod o gymorth iddo,

“Rwyf ond yn gobeithio y bydd y ddwy goes ’ma’ sy’n prysur fynd yn hŷn yn gallu fy nghario i, a dros y llinell derfyn,” ychwanegodd Deian.

Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at ddatblygu Plas Antaron, canolfan yr elusen ar gyrion Aberystwyth, fel Canolfan Byw’n Dda ac ehangu gwasanaethau gwirfoddol HAHAV ar draws Ceredigion.

Os hoffech gyfrannu, ewch i https://hahav.enthuse.com/cf/pedair-ras-mewn-pedair-wythnos-four-in-four neu www.hahav.org.uk, ac os hoffech wirfoddoli gyda HAHAV Ceredigion, ffoniwch 01970 611550, neu ar ebost: admin@hahav.org.uk .

Dweud eich dweud