Proms mewn cae yng Ngoginan

Miwsig yn y cwm

gan Sue jones davies

Ar benwythnos 19ain o Fai 2024, cafwyd gwledd o fiwsig yn yr heulwen penwythnos. Cymdeithas Gymunedol Goginan oedd yn trefnu a hynny i godi arian i ddwy elusen; Ward Meurig Bronglais ac Achub Aberdyfi. Y llynedd fe gasglwyd £1,500 ar gyfer Ambiwlans Awyr.

Y perfformwyr oedd Côr Meibion Y Mynydd, Aber Opera, Seindorf Arian Aberystwyth, Pedwarawd Llinynol.

Llywydd y prynhawn oedd Sue Jones Davies.

Paratowyd lluniaeth ysgafn gan ferched y pentre’ a hefyd Pimm’s bach i fynd gyda’r achlysur.

Cafodd prynhawn wrth fodd pawb o’r miwsig yn cario drwy’r ardal Melindwr.

Trefnwyd y Proms gan Colin Armstrong a’r criw sydd bob amser yn fodlon helpu.

Diolch hefyd i’r gynulleidfa a ddaeth i wrando a chyfrannu.

Mae’r gymuned yn paratoi am Broms arall y flwyddyn nesaf!