Penodi Prif Weithredwr Cymdeithas Dai fwyaf canolbarth Cymru

Jason Jones yw Prif Weithredwr newydd Barcud

Mererid
gan Mererid
image007

Jason Jones

Mae Jason Jones wedi cael ei enwi fel Prif Weithredwr newydd y Grŵp i gymdeithas dai Barcud.

Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector breifat a’r sector gyhoeddus, mae Jason Jones, o Aberaeron, yn arbenigwr ac yn hen gyfarwydd â maes eiddo ac adfywio. Mae wedi gwneud enw iddo’i hun fel unigolyn deinamig, rhagweithiol, a chraff, a chanddo hanes profedig o gyflawni canlyniadau o’r radd uchaf.

Cymhwysodd Jason fel Syrfëwr Siartredig a dechreuodd ei yrfa mewn rheoli ystadau ac eiddo yn y sector breifat, cyn symud i lywodraeth leol yn 2003.

Yn ei swyddi blaenorol yng Nghyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin, cafodd Jason brofiad helaeth yn rheoli ystadau, rheoli prosiectau eiddo, adfywio, digidol, a pholisi.

Mae ganddo hanes o arweinyddiaeth strategol lwyddiannus yn cynnwys timau mawr ac amrywiol a rheoli cyllidebau ariannol sylweddol. Mae profiad Jason o adfywio’n cynnwys cefnogi twf economaidd mewn cymunedau gwledig a hybu’r Gymraeg.  Mae’r profiad hwn yn gweddu’n dda i amcan cymdeithasol Barcud sydd â’i ffocws ar denantiaid.

Mewn cyfnod pryderus gyda argyfyngau tai a chostau byw yng Nghymru, mae’r penodiad cyffrous hwn i Barcud yn gosod y gymdeithas mewn lle cryf i fynd benben i’r afael â’r problemau enbyd hyn yn y cymunedau gwledig.

Dywedodd Alison Thorne, Cadeirydd Bwrdd Barcud

Mae Barcud yn barod i arwain y ffordd mewn ymdrin â heriau tai fforddiadwy, prinder cyflenwad tai ac anghydraddoldeb incwm. Drwy wneud yn fawr o atebion arloesol a meithrin cydweithrediad â rhanddeiliaid, bydd Jason yn arwain Barcud yn ei genhadaeth i ddarparu datrysiadau tai cynaliadwy a chefnogaeth i unigolion a theuluoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, gan sicrhau bod y gymdeithas yn aros yn y rheng flaen mewn ymdrechion i greu tirwedd dai gwytnach.