Mae Jason Jones wedi cael ei enwi fel Prif Weithredwr newydd y Grŵp i gymdeithas dai Barcud.
Gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector breifat a’r sector gyhoeddus, mae Jason Jones, o Aberaeron, yn arbenigwr ac yn hen gyfarwydd â maes eiddo ac adfywio. Mae wedi gwneud enw iddo’i hun fel unigolyn deinamig, rhagweithiol, a chraff, a chanddo hanes profedig o gyflawni canlyniadau o’r radd uchaf.
Cymhwysodd Jason fel Syrfëwr Siartredig a dechreuodd ei yrfa mewn rheoli ystadau ac eiddo yn y sector breifat, cyn symud i lywodraeth leol yn 2003.
Yn ei swyddi blaenorol yng Nghyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin, cafodd Jason brofiad helaeth yn rheoli ystadau, rheoli prosiectau eiddo, adfywio, digidol, a pholisi.
Mae ganddo hanes o arweinyddiaeth strategol lwyddiannus yn cynnwys timau mawr ac amrywiol a rheoli cyllidebau ariannol sylweddol. Mae profiad Jason o adfywio’n cynnwys cefnogi twf economaidd mewn cymunedau gwledig a hybu’r Gymraeg. Mae’r profiad hwn yn gweddu’n dda i amcan cymdeithasol Barcud sydd â’i ffocws ar denantiaid.
Mewn cyfnod pryderus gyda argyfyngau tai a chostau byw yng Nghymru, mae’r penodiad cyffrous hwn i Barcud yn gosod y gymdeithas mewn lle cryf i fynd benben i’r afael â’r problemau enbyd hyn yn y cymunedau gwledig.
Dywedodd Alison Thorne, Cadeirydd Bwrdd Barcud
Mae Barcud yn barod i arwain y ffordd mewn ymdrin â heriau tai fforddiadwy, prinder cyflenwad tai ac anghydraddoldeb incwm. Drwy wneud yn fawr o atebion arloesol a meithrin cydweithrediad â rhanddeiliaid, bydd Jason yn arwain Barcud yn ei genhadaeth i ddarparu datrysiadau tai cynaliadwy a chefnogaeth i unigolion a theuluoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, gan sicrhau bod y gymdeithas yn aros yn y rheng flaen mewn ymdrechion i greu tirwedd dai gwytnach.