Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Yn dilyn cyhoeddiad Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn cau gwelyau yn Nhregaron ac yn gwneud toriadau i ward plant yn Bronglais, ymgasglodd aelodau o’r gymuned leol yn Sgwâr Owain Glyndŵr ar ddydd Gwener y 4ydd o Hydref i leisio’u pryderon. Croesawodd aelodau’r cyhoedd y cyfle i arwyddo deiseb yn erbyn y toriadau. Mae’r grŵp yn bwriadu cynnal mwy o gyfarfodydd o’r fath yn y dyfodol agos i wneud y cyhoedd yn ymwybodaol o’r cynigion hyn ac i roi cyfle iddynt drwy’r ddeiseb anfon neges glîr yn ôl i’r Bwrdd Iechyd.