Nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol ar Fynydd Epynt

Digwyddiad wedi’i drefnu gan Gymdeithas y Cymod a Heddwch ar Waith

Côr Gobaith
gan Côr Gobaith
IMG_20240921_141712

Côr Gobaith yn cyfrannu at y digwyddiad

IMG_20240921_154535

Rhai o’r arwyddion a gadawyd ar y ffensys

PXL_20240921_121909159

Neges i atgoffa pobl nad oes heddwch ar Fynydd Epynt

PXL_20240921_135406773-1

Safiad tawel ar ddiwedd y digwyddiad

IMG_20240921_154319

Mwy o’r arwyddion a adawyd ar y ffensys

20240921_145053

Rhai o’r pobl a fynychodd y digwyddiad

Mae 21 Medi bob blwyddyn yn ddiwrnod pwysig yng nghalendr unrhyw un sy’n ymgyrchu dros heddwch. Clustnodwyd y diwrnod gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fel diwrnod i ymroi i atgyfnerthu egwyddorion heddwch, gan amlygu hyn gyda 24 awr o gadoediad a dim ymddygiad ymosodol. Erbyn hyn, mae’n cael ei nodi’n fyd-eang – ym mhob math o ffyrdd. Mae’n cael ei gydnabod hefyd gan nifer o drefi a chynghorau yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Cyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion.

Eleni, penderfynodd Cymdeithas y Cymod ddefnyddio’r diwrnod i gychwyn cyfnod o godi ymwybyddiaeth am hanes yr Epynt a’r ffaith fod y fyddin yn dal yno 84 mlynedd yn ddiweddarach.

I’r rheiny sy’n anghyfarwydd â’r stori, cymdeithas Gymraeg wledig, ddiarffordd oedd cymdeithas Mynydd Epynt cyn 1940. Tarddiad y gair Epynt yw ‘llwybr ebolion’, a cheffylau – yn ogystal â defaid – oedd i’w gweld yn crwydro’r caeau bryd hynny. Mae cyfeiriad at yr ardal a nifer o fryniau’r ardal – Bryn Bugeiliaid, Crug Hisbren, Carn Echanyn – yn Llyfr Llandaf (un o lawysgrifau eglwysig cynharaf Cymru), ac mae gan ambell enw cyfarwydd gysylltiad â’r ardal. Cefnbrith, ger Llangamarch, oedd cartref John Penry, ac yn yr ardal hon y magwyd yr emynydd William Williams, Pantycelyn.

Ond, yn nyddiau cynnar yr Ail Ryfel Byd, gwelodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod yr Epynt yn ardal addas iawn ar gyfer hyfforddiant milwrol, gan gynnwys tanio bwledi byw. A gorfodwyd pobl i adael eu cartrefi a’r bywyd yr oeddynt yn gyfarwydd ag ef er mwyn troi’r lle yn faes ymarfer rhyfel. Roedd hyn yn sioc llwyr i’r trigolion – y mwyafrif ohonynt â’u gwreiddiau yn ddwfn yn yr ardal. Er i sawl un feddwl taw rhywbeth drs dro fyddai hyn, yn fuan fe sylweddolwyd nad dyna’r sefyllfa ac o fewn chwe mis i glywed y newydd gyntaf roedd pobl yn gadael eu cartrefi am byth. Adnabyddir y cyfnod hwn fel y Troi Allan.

Dymchelwyd nifer o’r tai ac adeiladwyd strydoedd i gael ymarfer rhyfela. Plannwyd clystyrau o goed hwnt ac yma, coed sy’n edrych allan o’u lle yn llwyr ar y bryniau.

Mae’n ardal lawn prydferthwch ond mae gyrru ar hyd y B4519 yn anodd gydag arwyddion ‘Perygl’ i’w gweld bob hyn a hyn, a baneri mawr coch yn cyhwfan mewn mannau eraill yn rhybuddio pobl i gadw draw. Erbyn heddiw mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn berchen 30,000 o erwau yno ac adnabyddir yr ardal fel SENTA ac nid fel Mynydd Epynt.

Roedd yn lleoliad addas iawn felly i nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol ac ar y diwrnod cawodlyd hwn ym mis Medi daeth rhyw ddeugain o bobl ynghyd ger Canolfan Ymwelwyr Ffordd yr Epynt (ffermdy Disgwylfa gynt) i ddangos eu cefnogaeth a’u hawydd am heddwch, ac i alw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddychwelyd y tir i bobl Cymru.

Cafwyd anerchiad grymus gan Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod a esboniodd:

“Roedd yn briodol iawn i ni yng Nghymdeithas y Cymod fynd i’r Epynt ar Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol. Mae’r Epynt yn ardal eang o dir a fu’n eiddo i’r Cymry ers cyn cof. Ym 1940 trowyd dros 219 o bobl a phlant o 54 o aelwydydd gan y Llywodraeth er mwyn creu maes i ymarfer rhyfela. Erys y mynydd-dir hwn yn nwylo’r Weinyddiaeth Amddiffyn i’r un pwrpas hyd y dydd heddiw.”

Rhoddwyd ychydig o hanes y Troi Allan gan Marika Fusser. Darllenwyd dwy gerdd (y ddwy wedi eu hysgrifennu adeg wythdegmlwyddiant y Troi Allan) – un gan Mererid Hopwood yn gofyn am gael y tir yn ôl a’r llall gan Ifor ap Glyn yn ein hatgoffa ni o enwau’r ffermydd a’r tyddynnod. Cafwyd rhai caneuon gan Gôr Gobaith – côr heddwch o ardal Aberystwyth – hefyd. Gorffennwyd y cyfan gyda safiad tawel am 10 munud gyda phawb yn dal placardiau â negeseuon pwrpasol. Clymwyd y placardiau hyn wedyn ar y ffensys ger y Ganolfan Ymwelwyr er mwyn atgoffa eraill am wir hanes y lle ac i ddangos ein hawydd am heddwch yn y byd.

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau gwahanol y mae Cymdeithas y Cymod a’r rhwydaith Heddwch ar Waith yn bwriadu eu trefnu rhwng nawr a 30 Mehefin 2025, sef 85mlwyddiant y Troi Allan.

Sefydlwyd Heddwch ar Waith gan Gymdeithas y Cymod a CND Cymru gyda’r nod o weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau heddwch a chyfiawnder blaengar eraill i feithrin rhwydwaith ymgyrchu fyddai’n arwain yn y pen draw at greu Cenedl Heddwch. Ond sut mae cyflawni gweledigaeth o’r fath pan fo’r darn hardd hwn o dir dal yn nwylo’r Weinyddiaeth Amddiffyn?

Dyma un o’r prif resymau dros sefydlu’r ymgyrch hon. Am fanylion pellach am yr ymgyrch, ebostiwch epynt2025@gmail.com, neu beth am ymaelodi â Chymdeithas y Cymod a bod yn rhan o’r gweithgarwch.