Elen yn diddanu’r Merched

Dechrau tymor Merched y Wawr Aberystwyth

Mererid
gan Mererid

Cafwyd noson hwyliog yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth ar nos Lun y 16ain o Fedi 2024 gydag Elen Pencwm.

Hwn oedd digwyddiad cyntaf cangen Merched y Wawr ar gyfer y flwyddyn 2024-25 gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau o’u blaen. Y swyddogion eleni yw Dana Edwards (Llywydd), Delyth Davies (Ysgrifennydd) a Siân Pryce Edwards (Trysorydd) – ill tair yn y llun gyda’r wraig wadd, Elen.  Yr is-swyddogion yw Megan Jones Roberts, Llinos Young, Joyce Howells a Nonna Owen, gyda Susan Jenkins yn dosbarthu’r Wawr.

Yn ogystal a thipyn o hanesion a jôcs Elen, gêm o Siôn a Siân, esboniodd Elen gefndir menter y mae’n rhan ohoni sef Siedr Pisgah Chi.

Mae’r fenter yn chwilio am gyfleoedd i werthu’r seidr, felly os oes gennych chi Ffair Nadolig neu fore coffi, cofiwch gysylltu â nhw ar Facebook neu ar e-bost seidrpisgahchi@gmail.com

Diolchodd Dana yn fawr i Elen am y seidr a dderbyniwyd fel rhodd i’r rhai oedd yn mynychu. Diolch hefyd i’r Clwb Rygbi am leoliad i’r digwyddiad.

Mae cangen Aberystwyth o Ferched y Wawr yn un fawr a bywiog, felly beth am ymuno a ni? Rydym yn cwrdd unwaith y mis rhwng Medi a Mehefin gyda digwyddiadau yn amrywio o deithiau, yoga, crefft a dathlu Nadolig a Gŵyl Ddewi.

Mae’r gangen hefyd yn cynnal Clwb Darllen ar y 3ydd dydd Llun o’r mis yng Ngwesty’r Marine am 2 o’r gloch.

Dweud eich dweud