Yn dilyn y tân ym Mharc Natur Penglais haf diwethaf, difrodwyd rhan isaf o’r goedwig.
Trafododd Grŵp Cefnogi Parc Natur Penglais sut y gallent ddefnyddio’r cyfle i adeiladu llwybr fel y gall pobl fwynhau’r golygfeydd hyfryd a welir o’r ardal anhygyrch hon o’r Parc.
Llwyddodd y criw i weithio o dan gyfarwyddyd y contractwr lleol Peter Drake am gyfanswm o tua 350 awr i greu llwybr sy’n troelli drwy bentyrrau sbwriel yr hen chwarel. Diolchwyd hefyd i’r Clwb Golff am adael mynediad i gludo cerrig ac arbed gwaith cario sylweddol. Daeth grant ariannol i Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion oedd wedi galluogi gwirfoddolwyr o’r gymuned leol a myfyrwyr o Wirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth i gymryd rhan mewn creu’r llwybr newydd.
Ar fore dydd Sadwrn, 18fed o Fai 2024, gweithred gyntaf y Maer newydd, Maldwyn Pryse oedd agor y llwybr yn swyddogol.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a chynghorydd Aberystwyth:
“Ar ôl y tân difrifol y llynedd, pan fu’n rhaid symud trigolion lleol o’i cartref, gwelsom gyfle i wella’r ardal ar gyfer y gymuned yn ogystal â helpu i atal rhagor o bobl.
Mae adeiladu’r llwybr hwn yn gyflawniad oherwydd gwaith gwych tîm mawr o wirfoddolwyr lleol gyda chymorth ariannol gan y Cyngor Sir. Mae’r llwybr troellog newydd yn agor ardal o’r parc a oedd yn anhygyrch yn flaenorol ac yn rhoi golygfa hyfryd o brydferth dros y dref. Y gobaith yw y bydd yn atal unrhyw danau rhag lledu yn y dyfodol.”