Llongyfarchiadau i Gareth a Drudwns Aber

Llwyddiant yn Eisteddfod Llanuwchllyn

Mererid
gan Mererid
Gareth-Owen
Drudwns

Dydd Sadwrn, 18fed o Fai 2024, Gareth Owen gafodd ei gadeirio yn Eisteddfod Llanuwchllyn, ger y Bala.

Mewn cystadleuaeth o 11 o feirdd, gyda’r ffugenw Deiniol, cerdd rydd oedd hon gan Gareth a hynny er gwaetha’r ffaith ei fod yn gynganeddwr o fri.

Mae Gareth wedi ei eni a’i fagu yn Llanuwchllyn, ac wedi setlo yn Aberystwyth ers dros 10 mlynedd.

Rydym yn fwy cyfarwydd â Gareth fel artist, ond mae’n dda ei fod yn cael ei gydnabod hefyd yn fardd.

Cafodd parti adrodd Drudwns Aberystwyth hefyd gyntaf yn y gystadleuaeth am barti/côr adrodd.

Llongyfarchiadau i bawb, a diolch am gefnogi Eisteddfodau lleol.