Yn dilyn isetholiad ward Penparcau ym mis Tachwedd, mae Shelley Childs bellach wedi cael amser i drafod blaenoriaethau gyda’i gyd-gynghorydd Carl Worrall.
Yn ystod y canfasio, nododd nifer o’r trigolion fod lle i wella’r defnydd sydd yn cael ei wneud o safle eang Min y Ddol – sydd yn dilyn llwybr yr afon o Heol y Bont hyd at y rhandiroedd ger pont St Brieuc.
Wedi trafodaeth gyda Chlwb Pêl-droed Penparcau, sydd yn rhentu’r tir gan Gyngor Sir Ceredigion, derbyniwyd cefnogaeth y Clwb i ofyn barn y cyhoedd am beth ellid ei wneud i ddatblygu’r safle.
Mae Shelley a Carl a’r Clwb yn angerddol, ac am amddiffyn y rhan bwysig hon o’r pentref, ac yn teimlo, gyda’r cynllun gweithredu cywir, y gellir llunio Cynllun Busnes i wella’r lleoliad i bob un ohonom fel y gellir ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod. Efallai eich bod am weld mwy o lwybrau natur, chwaraeon, parc i gŵn, neu unrhyw syniadau arall.
Byddai’r ddau yn ddiolchgar os gallech chi gymryd 2 funud i lenwi’r ffurflen isod. Mae’n wahoddiad i bawb – nid jest trigolion Penparcau.