gan
Mererid
Eglwys Sant Paul yn Aberystwyth oedd lleoliad cynhadledd Heddwch ar Waith ar ddydd Sadwrn, 17eg o Chwefror 2024.
Gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Tref Aberystwyth ac Ymddiriedolaeth Joseph Rowntree, amcan y dydd oedd i gynyddu’r cydweithio rhwng mudiadau heddwch a chyfiawnder er lles pobl a chymunedau Cymru a’r byd.
Ymhlith y siaradwyr roedd
- Sam Bannon, Cydlynydd Heddwch ar Waith
- Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion
- Robat Idris, Cymdeithas y Cymod
- Jill Evans, Dirprwy Gadeirydd CND Cymru
- Jenny Mathers, Uwch ddarlithydd Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Douglas Jones, Undeb PCS
- Rachel Solnick, Cydweithio Dyffryn Dyfi
- Bilal Fawaz, Ymgyrchydd
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Siân Howys a chroesawyd pawb i’r digwyddiad gan y Maer, Cyng Kerry Ferguson.
Roedd yn ddiwrnod positif ynglŷn â’r ffyrdd y gall pob un ohonom annog heddwch a gwrthwynebu militariaeth.