Pnawn Sadwrn, 14 Rhagfyr, daeth dros 100 o bobl ynghyd yn Sgwâr Owain Glyndŵr, Aberystwyth, i wylnos dros heddwch ym Mhalesteina a Libanus.
Roedd yn cynnwys cyfnod o dawelwch a arweiniwyd gan Women in Black, mudiad a sefydlwyd gan fenywod Iddewig yn Israel yn 1988 ar ôl dechrau’r Intafada Palestinaidd cyntaf.
Daeth menywod at ei gilydd yn Jerwsalem a chynnal protestiadau distaw yn erbyn meddiannu Gaza a’r Lan Orllewinol. O fewn misoedd, roedd 40 o grwpiau wedi eu ffurfio, gan gynnwys rhai oedd yn gyfuniad o fenywod o Balestina a menywod o Israel – pob un yn mynnu heddwch cyfiawn i’w plant.
Mae menywod Israel yn parhau i sefyll yn erbyn y meddiannu a’r hil-laddiad er gwaetha gwrthwynebiad a bygythiadau parhaus. Maen nhw hefyd yn cefnogi mudiad BDS (Boycott, Divest, Sanctions).
Rhwydwaith byd-eang sydd wedi ymrwymo i heddwch a chyfiawnder ac sydd yn gweithredu i wrthwynebu anghyfiawnder, rhyfel, militariaeth, a thrais yw Women in Black.
Ym mis Mai 2024, cynhaliodd menywod wrthdystiad gyda baner enfawr
oedd yn cofnodi – mewn Arabeg, Hebraeg a Saesneg – enwau 10,093 o fenywod a 15,239 o blant a laddwyd yn Gaza. Roedd y geiriau hyn gan yr awdur a’r newyddiadurwr Palesteinaidd Hadaya Shimon yn cyd-fynd â’r enwau:
“Darllenais enwau’r plant ac mae fy llais yn tagu, yn tagu . . .
Mae pob enw yn fywyd
Mae unrhyw enw yn gartref
Mae pob enw yn chwerthiniad
Mae pob enw yn stori
Mae pob enw yn wên
wedi diflannu, wedi diflannu.”
Roedd cyfrif y marwolaethau ar 9 Hydref 2024 yn cofnodi bod 45,418 wedi marw yn Gaza.
Isafwm yw’r ffigwr hwn gan nad yw’n cynnwys y rhai sydd wedi diflannu, y rhai sydd wedi eu llosgi, y rhai a gladdwyd o dan rwbel, y rhai nad oedd amser i’w cyfri, y rhai nad oedd neb ar ôl i ‘w cyfri, y rhai heb eu dogfennu.
Fe wnaeth y safiad tawel ar 14 Rhagfyr bara am 20 munud, sef 1,200 o eiliadau. Mae pob un o’r eiliadau hynny’n cynrychioli 30 o ddynion, menywod a phlant a lofruddiwyd.