Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Gwylnos Carolau dros Heddwch a drefnwyd gan Heddwch ar Waith
Er gwaethaf y tywydd, salwch, ac ymrwymiadau i ddigwyddiadau eraill ac i deulu, daeth tua 60 o bobl benderfynol at ei gilydd bnawn Sadwrn 21ain o Ragfyr i gynnal gwylnos garolau dros heddwch gyda Côr Gobaith ger bandstand Aberystwyth. Darllenwyd cerddi gan Mererid Hopwood, Hiba Abu Nada, Mosab Abu Toha a Refaat Alareer, ynghyd â llythyr gan Gyngor Tref Aberystwyth a geiriau gan Howard Zinn rhwng y carolau, a chodwyd £103 ar gyfer UNRWA.(Ffoto/s gan Hannah Mann ac Emma Marr)