Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol mai Ffynnon Haearn yw’r Chalybeate Street yn Gymraeg – hynny yw, dŵr a oedd yn gryf o haearn. Yn wreiddiol, roedd yn cael ei adnabod fel Chalybeate Terrace. Cafodd ei newid i “Street” cyn 1895. Darganfuwyd Ffynnon Haearn tua 1779, ac roedd galw mawr am ddŵr y ffynnon. Roedd y ffynnon dan berchnogaeth stâd Nanteos, ac roedd dirwy o £5 i unrhyw un oedd yn dwyn cerrig o’r ffynnon, oedd a buddion arbennig yn ôl y sôn. Dymchwelwyd y ffynnon yn 1897.
Mae hyn wedi annog fy niddordeb pam fod “ffynnon” yn ymddangos mewn enwau llefydd yn Aberystwyth.
Dyma erthygl o Lygad y Ffynnon Rhif 39 a gyhoeddwyd yn Nadolig 2015. Cyhoeddir drwy ganiatáu Cymdeithas Ffynhonnau Cymru.
Casglwyd y wybodaeth ganlynol gan David Samuel, prifathro cyntaf Ysgol Ardwyn. Gwnaeth nodiadau ar gyfer erthyglau a ddyddiwyd fel Gorffennaf 27ain, 1892.
Mae’r dogfennau i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol o dan y cyfeirnod NLW MS 2832B. Casglwyd y wybodaeth gan Jane Lloyd Francis. Abercregir ger Machynlleth.
Dywedodd David Samuel:-
“Cefais yr hanesion canlynol oddi wrth Mr John Evans, Gwneuthur Cabinet, un o hen ddinasyddion Aberystwyth, yr hwn sy’n gyfoethog o lawer hanes cysylltiedig â’n tref.”
FFYNNON TWLC YR HWCH
Flynyddoedd yn ôl …nid oedd rhwng adeilad y Coleg a’r castell yr un wal yn y byd – peth cymharol ddiweddar yw’r ffordd sy’n arwain heibio i’r coleg at y castell, ac yn ddiweddar, wrth wneud y ffordd yr adeiladwyd y mur ‘y sea wall.’
Yr oedd yn y fan hon, rhwng y môr a’r Eglwys, gae bychan, yr hwn a elwid ‘Cae Judith’. Hen housekeeper-ni-charge i’r tŷ a adweinid y pryd hwnnw ac am flynyddoedd wedyn, ac a adwaenir eto gan hen bobl y dref wrth yr enw ‘Castle House’, sef y darn canol o’r Coleg a thŷ’r Prifathro. Ystyrid yr hen Judith yn ddoctores o gryn fri yn enwog fel meddyg. Mae Judith wedi marw bellach ers 60 mlynedd.
Ymddengys fod Cae Judith yn terfynu ar ochr y môr mewn dibyn serth, ac yng nghesail y dibyn llochesai Ffynnon Twlc yr Hwch. Elent at y ffynnon o Pier Street, drwy King Street (neu College Street fel y myn rhai ei galw yn awr) ac wedi myned heibio i’r Castle House, yr oedd yno lwybr yn arwain i’r traeth ac at y ffynnon.
Yn y fan hon rhwng Craig y Castell a Chraig y Wig, yr oedd yno draeth bychan yr hwn a elwid yn gyffredin wrth yr enw ‘Glan Môr Ladis’ am y rheswm mai yn y fan hon yr arferai merched drochi yn yr amser gynt. Ymolchent ac ymdrochent yn y fan hon yn y drefn fwyaf cyntefig, yn hanner noeth neu yn gwbl noethion.
Yn y traeth hwn, hefyd y mae Pwll Padarn, yr hwn y gellir ei weled yn ein hamser ni pan fydd y trai ymhell allan. Arferai’r hen bobl drochi yn aml, aml ynddo.
Pan adeiladwyd Eglwys Mihangel Sant (y drydedd o’r enw hwnnw) caewyd y llwybr a arweiniai efo’r wal i fyny, a gwnaethpwyd y ‘sea-wall’ presennol.
Yr adeg honno dinistriwyd yr hen ffynnon hefyd. Yr oedd ynddi ddigon o ddwfr bob amser, digon o ddwfr a’r math ragora, yr hwn oedd yn hynod ddymunol oblegid ei oerni adfywiol ym misoedd tesog yr haf. Ond ar brydiau, ai’r ffynnon yn hollol ddi-fudd, yn enwedig yn amser y ‘spring tides’ mawrion, pan fyddai’r môr yn codi i’r lan yn uchel, a’r llanw yn ddigon cyflawn i ddod at y ffynnon a’i llenwi â heli. Tybir mai llysenw o ryw fath oedd yr enw a roed ar y ffynnon.
FFYNNON GRAIG GOCH
Ffynnon rinweddol iawn oedd hon. Arferai pobl y dref fynd at ei dyfroedd bob bore i olchi eu llygaid os bydd ryw wst arnynt. Yr oedd y ffynnon yng ngardd Graig Goch, wrth gefn y tŷ, rhyngddo a’r môr. Yr oedd tua 10 troedfedd mewn dyfnder. Deuai’r dŵr i’r ffynnon o graig yn bistyll neu raeadr fach dlws iawn. Nid oedd y wal sy’ nawr yn rhedeg o gylch yr ardd wedi ei hadeiladu’r pryd hwnnw. O’r pistyll bach byddai’r rhai oeddynt am yfed y dwfr yn arfer ei sugno i mewn trwy welltyn tenau.
FFYNNON GYMMYRCH
Yr oedd y ffynnon hon hanner ffordd rhwng Trefechan a Felin y Môr, ac yr wyf yn lled hyderu mai hon yw’r ffynnon sy’n awr i’w gweled ar ymyl y ffordd sydd rhwng Trefechan a’r felin. Nid wyf yn gwybod fod dim neilltuol wedi digwydd yn dwyn perthynas â’r ffynnon hon. Nid wyf yn sicr fy mod wedi sillafu ei henw yn iawn ac nid oes gennyf y syniad lleiaf beth yw meddwl ac ystyr y gair.
FFYNNON YR ANCR
Yn gyffredin, ysgrifennir ef fel gair Saesneg ‘anchor’ ond nid angor yw’r enw priodol ar y ffynnon ond ‘ancr’ neu feudwy- ‘hermit’s well’.
Ceir hefyd yn ‘Pen anchor- ‘hermit’s peak’.
Ymddengys fod gynt ddwy ‘Ffynnon yr Ancr’- yr oeddynt yn llochesi dan y geulan ar y ffordd yr eloch o ‘Ben yr Ancr’ yng nghyfeiriad y pier cerrig.
Yr oedd y ddwy yn agos iawn lle y gosodir y lamp i fyny gyferbyn â’r fynedfa i’r porthladd, i ddangos i’r llongau’r modd i iawn gyfeirio eu cwrs wrth wneud eu ffordd i mewn drwy fynedfa gul ym mhen y bar. Mae’r ddwy ffynnon wedi eu cau i fyny ers 40 neu 50 mlynedd yn ôl. Caewyd hwynt pan gynlluniwyd y ffordd sydd yno i fyned yn ôl a blaen at y pier.
Yn ymyl y fan lle’r oedd y ffynnon, mae yno, fel y gwyddys, graig wedi ei thorri trwodd – êl y ffordd yn awr drwy fwlch yn y graig. Gwnaethpwyd hyn tua’r un adeg a phan lanwyd y ffynhonnau. Gelwid y lle hwn yn ‘Pen Huwcyn’. Arferai’r hen forwyr ddweud am yr ‘Huwcyn ‘hwn, mae dyn ydoedd heb fod yn ei lawn synhwyrau, ac yn arfer mynychu fel gwallgofddyn ar ei ben ei hun i’r man unig neilltuedig hwn. Ac yn y ffaith hon, yn y bywyd meudwyol yn ddiau y treuliasai Huwcyn ei hoedl, y gwelaf esboniad ar y geiriau uchod, ‘Ffynnon yr Ancr’ a ‘Phen yr Ancr’.
Os am ddod yn aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru – ymwelwch â’i gwefan neu ysgrifennwch at Y Trysorydd, Bryn Dafarn, Llandwrog Uchaf, Caernarfon, Gwynedd LL54 7RA.