Diwrnod coffau Nakba

Sefyll dros Palestina

gan Sue jones davies

Ar 15fed o Fai 2024, diwrnod coffau Nakba, daeth torf o ryw 50 o bobl at ei gilydd ar Sgwâr Glyndwr, Aberystwyth i dystio dros yr angen dybryd am heddwch a chyfiawnder yn Gaza.

Ymgasglodd cefnogwyr Heddwch ar Waith a Grŵp Cefnogi Palestina mewn myfyrdod tawl. Roedd llawer un wedi dod â baner Palestina neu blacard gyda negeseuon a delweddau yn tynnu sylw at y sefyllfa dorcalonnus bresennol.

Ystyr y gair Nakba yw trychineb ac mae’r Palestiniad pob blwyddyn yn coffau’r hanes yn 1948 pan wnaeth cannoedd o filoedd o Palestiniad orfod ffoi o’u cartrefi a chael ei dadfeddiannu o’u tiroedd adeg y rhyfela fu wrth sefydlu gwladwriaeth newydd Israel. Yn amlwg, mae’r cofio eleni yn taflu ei gysgod dros y lladd a’r dioddefaint presennol sy’n y wlad. Ar ôl y munudau o ddistawrwydd tawel, daeth aelodau Côr Gobaith i ganu “Cadoediad nawr” a chaneuon heddwch eraill.

Mae Grŵp Heddwch ar Waith yn trefnu gwylnosau wythnosol ac yn codi arian at gymorth meddygol i Balestiniaid. Os oes diddordeb mewn cyfrannu neu ymuno yn y gwylnosau, gallwch gysylltu gyda sianhowys@hotmail.com neu ceredgionpsc@gmail.com