Dathlu 40 mlynedd ymweliad Frank Evans â Yosano

Disgyblion o Benweddig a Phenglais yn teithio i Siapan i fod yn ran o’r dathliadau

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
Yn Nwylo'r Nippon

Llyfr cyntaf Frank Evans ar ei brofiadau fel carcharor rhyfel

Roll-Call-at-Oeyama

Fersiwn Saesneg o brofiadau Frank Evans

Cerdd-Eurig

Rhan gyntaf

Cerdd Eurig Rhan 2
Cerdd Eurig rhan 3

Profiad y diweddar Frank Evans o ardal Aberystwyth oedd bod cyd gyn-garcharorion rhyfel yn ymateb i’r profiadau erchyll yn y Dwyrain Pell mewn gwahanol ffyrdd. Dewisodd Frank fynd yn ôl a wynebu ei orffennol gan geisio cymodi er mwyn selio dyfodol heddychlon.

Ei brif ddyhead oedd dychwelyd i Siapan ac i’r ardal lle bu’n garcharor er mwyn codi cofeb i goffau ei gyd-garcharorion na oroesodd y profiadau erchyll.  Mae’n croniclo ei brofiadau mewn gwersylloedd rhyfel yn Hong Kong a gwesyll Oeyama ger Yosano yn Siapan yn onest yn ei lyfr ‘Yn Nwylo’r Nippon’.  Mae addasiad Saesneg ei lyfr sef ‘Roll call Oeyama’ yn ychwanegu penodau newydd yn seiliedig ar ei ymweliadau Hong Kong a Siapan.  Mae’r ddau lyfr i’w cael i ddarllen yn llyfrgell y dref yn Aberystwyth – ac mae’n werth wneud hynny yn arbennig o gofio tensiynau y dwyrain canol a Iwcrain

Cyn mynd yn ôl i Hong Kong a Siapan roedd Frank yn synhwyro bod ei awydd i ymweld â man lle bu rhywun yn garcharor rhyfel yn ymddangos yn ddieithr i lawer. Teimlai llawer y dylai caledi’r dyddiau a fu gael eu plygu, eu selio a’u hanghofio. Ond ni allai Frank anghofio ei brofiadau ac roedd ganddo’r ysfa i olrhain ei gamau eto. Ymwelodd yn gyntaf â’r gwersylloedd yn Hong Kong lle bu’n garcharor a chyfarfyddiad ar hap wrth gerdded o gwmpas yr awyren ar y daith adref gyda pharti Siapaneaidd ar ei bwrdd agorodd y drws iddo ddychwelyd i Siapan. Fe’i cyflwynwyd i Mrs Yoshiko Kito a oedd yn gyfieithydd i’r teithwyr Siapaneaidd. Dangosodd ddiddordeb mawr yn ei stori a chynhigiodd help iddo wireddu ei ddyhead. Gwnaed cynlluniau iddo ddychwelyd i Siapan ac roedd HTV i ymuno ag ef i wneud rhaglen ddogfen.

Union 40 mlynedd i eleni, ar ddydd Sul 4ydd Tachwedd 1984, gyrrwyd Frank i Fangor gan ei gefnder David Trevena (oedd yn ddarlithydd uchel ei barch yn adran Ffiseg y brifysgol yn Aberystwyth).  Yno ymunodd â chriw o HTV i gychwyn ar ei daith i Hong Kong a Yosano yn Siapan.  Ar 13 Tachwedd aed a Frank a’r criw ffilmio i adeilad y llywodraeth Kaya-Cho. Cawsant eu cyfarch gan barti croesawgar o lawer o bobl gan gynnwys Mr Hosai, y maer, yn ei kimono glas; Mr Kono, y mynach Bwdhaidd, Mr Arai, rheolwr gyfarwyddwr y ffatri Nickel ynghyd â theledu Japaneaidd, gohebwyr papurau newydd a ffotograffwyr.

Roedd Frank wedi ei lethu gan emosiwn wrth iddo gamu allan o’r car, a theimlai’n agos at ddagrau wrth i ferch ifanc mewn cimono llachar gyflwyno tusw mawr o flodau iddo. Roedd gwênau eang y torfeydd yn dynodi cynhesrwydd eu croeso i Kaya-Cho. Ar ôl areithiau aethant gyda’r maer yn ei gar i barcdir Oeyama lle’r oedd maes hamdden mawr yn cael ei adeiladu. Yno yng nghornel cwrt tennis safai’r gofeb newydd oedd wedi ei chodi ar gost o dros £1500 trwy haelioni trigolion y dref a pherchnogion ffatri Nickel lle cafodd Frank ei orfodi i weithio o dan amgylchiadau erchyll. Roedd y gofeb wedi’i lleoli mewn llecyn hardd, gyda mynyddoedd Oeyama a’r hen fwynglawdd ar y naill ochr a’r bryniau a’r dyffryn ar yr ochr arall, yn ymestyn i lawr i’r môr yn Kaya.

Ar brynhawn yr 20fed o Dachwedd 1984, dadorchuddiwyd y gofeb gan Frank, Mr Hosoi y maer a Mr Arai, rheolwr gyfarwyddwr y ffatri Nickel,  Dosbarthodd Frank gasgliad o babi coch a brynodd oddi wrth Miss Doris Morgan MBE o’r Lleng Brydeinig yn Aberystwyth. Ar un ochr i’r garreg farmor ddu mae’r geiriau canlynol wedi’u hysgythru’n amlwg:

ER COF

IN MEMORY OF MY COMRADES

EX-P.O.W. F. EVANS

ABERYSTWYTH    Nov. 1984

Ac ar yr ochr arall yr un geiriau ynghyd â’r neges blodau ceirios mewn ideogramau Japaneaidd.

Ystyriwch ein blodau sy’n hardd mewn bywyd a marwolaeth. Peidiwch byth â gadael i ni a bodau dynol farw mewn holocost hyll ond, yn hytrach, gadewch i ni i gyd fyw a marw yn naturiol ac yn hyfryd mewn heddwch perffaith am byth.’ ‘Ein no hei wah.’ (Heddwch am byth).

Mae’r hadau a heuwyd 40 mlynedd yn ôl pan ailymwelodd Frank â’r ardal i gydweithio gyda’r maer a phobl Kaya a’r ffatri nicl wrth godi cofeb wedi tyfu.  Gall ein pobl ifanc yn Yosano ac Aberystwyth ymweld a dysgu oddi wrth ei gilydd mewn cytgord. Braint fydd cael ymweld â Yosano ynghyd â disgyblion o’r 6ed dosbarth o Benweddig a Phenglais i ddathlu’r achlysur arbennig ddigwyddodd union 40 mlynedd yn ôl.

I nodi’r achlysur arbennig hwn, gofynnodd Cyngor Tref Aberystwyth i Eurig Salisbury  bardd y dref i ysgrifennu cerdd i anrhydeddu’r achlysur ac i ddathlu’r cysylltiad cryf a’r ddealltwriaeth sy’n seiliedig ar brofiad Frank – yn enwedig y ffocws ar gymod, dealltwriaeth, cyfeillgarwch a chydweithio dros heddwch a deall. Roedd Eurig wedi darllen llyfr Frank ac wedi deall delweddaeth gyfoethog ac ystyr y goeden geirios i Frank ac i ardal Yosano – fel mae’r cywydd yn dangos.

Dweud eich dweud