Dathliad Project Aberaid Morlan

Arddangosfa

gan Medi James

Dros yr wythnosau diwethaf, dan arweiniad ymddiriedolwyr ABERAID, mae criw o ffoaduriaid  sy’n byw yn lleol,  wedi ennill arian  o ffynhonnell Grant Cydlyniad Cymdeithasol. Mae hwn wedi eu galluogi i adnewyddu cyntedd arddangos Canolfan y Morlan. Mae’r gofod hir wedi ei baentio ac offer pwrpasol wedi ei osod i arddangos lluniau.

Agorodd yr arddangosfa gyntaf dydd Mercher.  Mae lluniau Victoria Kazymova ac Iryna Kolpakova i’w gweld, gwaith haearn gan y gof  Mohammed Karkubi, a ffotograffau o’r artistiaid wrth eu gwaith gan y ffotograffydd Yana Savko.

Ar ôl yr arddangosfa  cawsom ddarlleniad gan Naji Bakhti ac Assala. Gwaith oedd wedi deillio o ddau weithdy i’r ffoaduriaid a gynhaliwyd gan Naji ar ran  adran Ysgrifennu Creadigol y Brifysgol. Enw’r darn cyfansawdd oedd ‘Re-imagining homeland’. Darn hynod o bwerus yn cyfleu teimladau dwfn a phersonol y ffoaduriaid o fod wedi gorfod symud o’i mamwlad. Adroddwyd am ddigwyddiadau gwych a gwachul. Ac hefyd am y croeso diogel a chynnes yng Nghymru.

Paratowyd snacs sawrus gan Broject Cinio’r Syriaid.

Mae’r gwaith i’w weld pan mae’r Morlan ar agor ac ar foreau Mercher o 11 tan 1 pan fydd sesiynau wythnosol Aberaid yn cael eu cynnal.

Dweud eich dweud