Darllen Cymru mewn Ieithoedd Amrywiol

Cyflwyno’n Nofelau

gan Medi James
Mohammed yn cael blas ar ddechrau darllen Drift, Caryl Lewis yn Arabeg

Mae’r elusen lleol, Aberaid, yn cynnal cyfleoedd i sgwrsio dros baned yn Morlan unwaith yr wythnos. Roedd yn braf iawn cael croesawu Elin Haf o Gyfnewidfa Lên Cymru i annog y ffoaduriaid lleol, Syriaid ac Wcraniaid, i darllen ac i ni wirfoddolwyr gychwyn Clwb Darllen gyda’n gilydd.

Bwriad Darllen Cymru mewn Ieithoedd Amrywiol ydy cysylltu cymunedau lleiafrifol yng Nghymru â llenyddiaeth Gymraeg gyfoes drwy ddefnyddio cyfieithiadau cyhoeddedig mewn ieithoedd amrywiol. Mae gan Gasgliad Cyfieithiadau Cyfnewidfa Lên Cymru dros 300 o lyfrau gan awduron Cymraeg wedi’u cyfieithu i 30+ o ieithoedd. Mae’r prosiect peilot hwn yn ailgyfeirio llyfrau a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer marchnadoedd tramor ac yn dod â nhw yn ôl i Gymru i’w mwynhau gan ddarllenwyr yn eu hiaith frodorol drwy gyfres o ddigwyddiadau cymdeithasol yn ennyn diddordeb cymunedau lleiafrifol yn y celfyddydau.

Meddai Elin “Rydym yn falch o gael cydweithio gyda Aberaid, a thrwy’r bartneriaeth yma, sefydlu cylch darllen amlieithog drwy ddarparu cyfrolau o Drift gan Caryl Lewis yn Saesneg ac Arabeg. Mi fydd y gwreiddiol (Saesneg) yn cael ei darllen gan ffoaduriaid Wcraen ymhlith gwirfoddolwyr Aberaid. Ochr yn ochr â nhw bydd ffoaduriaid o Syria yn darllen y cyfieithiad Arabeg. Mae yna lawer mwy o lenyddiaeth Cymraeg i’w gael mewn cyfieithiad Arabeg, gan gynnwys Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros a Rhyw Flodau Rhyfel gan Llŷr Gwyn Lewis. Rydym yn gyffrous i gyflwyno ystod eang o gyfieithiadau Arabeg i gylch darllen amlieithog Aberaid maes o law.

Cydlynir Darllen Cymru mewn Ieithoedd Amrywiol gan Gyfnewidfa Lên Cymru mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Cyngor Hil Cymru a PEN Cymru