Yng nghyfarfod Cyngor Tref Aberystwyth heno, dewiswyd Maldwyn Pryse fel Maer Aberystwyth am y flwyddyn o Fai 2024 i Ebrill 2025.
Maldwyn oedd y Dirprwy Faer llynedd, tra roedd Kerry Ferguson yn llywio’r awenau fel y Maer.
Dewiswyd Emlyn Jones fel Dirprwy Faer, a’r arferiad felly yw bod y Dirprwy yn cael eu dewis yn Faer yn y flwyddyn ganlynol.
Pwy yw Maldwyn Pryse?
Mae Maldwyn wedi bod yn Gynghorydd Tref yn Aberystwyth ers yr 2022 (yr etholiad diwethaf), dros ward Gogledd Aberystwyth. Bu Maldwyn yn weithiwr ieuenctid / plant a myfyrwyr efo’r capeli Presbyteraidd yn Aber, cyn gweithio fel athro yn Ysgol Llanfihangel-y-creuddyn. Yn dilyn secondiad fel athro ymgynghorol Technoleg Gwybodaeth gyda Cyngor Dyfed, apwyntiwyd ef yn bennaeth yn ei ysgol wreiddiol, cyn cael swydd Pennaeth Ysgol Llanilar.
Yn ddiweddarach, cafodd ei apwyntio’n Ymgynghorydd Addysg gyda Cyngor Sir Powys gyda chyfrifoldeb ychwanegol am Cyngor Ymgynghorol Statudol ar Addysg Grefyddol (CYSAG) y sir a Thechnoleg Gwybodaeth.
Wedi cyfnod ar secondiad efo Estyn, fe’i hapwyntiwyd yn AEM (HMI) tan ei ymddeoliad dwy flynedd yn ôl. Maldwyn oedd yn arweinydd digidol Estyn.
Mynychodd Maldwyn yr un ysgol a’i hen daid yn Ysgol Llanrhaeadr-ym-mochnant, cyn derbyn y mwyafrif o’i addysg gynradd yn Ysgol Gynradd Llandymddyfri. Wedi bron i bedair blynedd yn Ysgol Pantycelyn, symudodd y teulu i’r Borth a gorffennodd Maldwyn ei addysg uwchradd yn Ysgol Penweddig, lle cafodd ei ddewis yn gapten y tîm rygbi ac yn Brif Swyddog yr ysgol. Fe’i derbyniwyd i’r Adran Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ond trodd ei lwybrau at Ddiwinyddiaeth cyn hyfforddi fel athro yn y Brifysgol.
Ar hyn o bryd Maldwyn yw dirprwy faer y dref sy’n cadeirio’r Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol. Mae’n cynrychioli’r Cyngor ar y War Memorial Trust, Pwyllgor Gefeillio Esquel ac Aberystwyth (AEPPA), Ymddiriedolaeth Craig Glais a Pharc Natur Penglais. Mae’n gwirfoddoli yn cynorthwyo cynnal a chadw a chreu llwybrau ym Mharc Natur Penglais ac yn cynorthwyo efo cyrchu a dosbarthu deunyddiau gyda HAHAV yn ôl yr angen.
Pwy yw Emlyn Jones?
Mae Emlyn wedi bod yn Gynghorydd Tref yn ward Canol Aberystwyth ers 2022. Astudiodd Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ennill gradd Meistr rhwng 2007 a 2011, wedi symud yma o Dremadog. Mae bellach yn gweithio llawn amser gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, a rhedeg busnes ei hun gyda’i bartner Kerry yn y maes digidol. Mae’n weithgar mewn sawl mudiad gwirfoddol yn y dref, yn cynnwys bod yn gadeirydd ar Fenter Aberystwyth, aelod o glwb Rotari Ardal Aberystwyth, a hefyd yn flaenllaw yn cyflawni “Prosiect Aber” mewn partneriaeth rhwng y Cyngor Tref, Menter Aberystwyth a Chlwb Busnes Aberystwyth.
Ar hyn o bryd mae Emlyn yn cadeirio’r pwyllgor staffio, ac yn rhan o bwyllgor Rheolaeth Cyffredinol yn ogystal â Cyllid, ac yn cynrychioli’r Cyngor ym mhwyllgor partneriaeth Esquel ac Aberystwyth ymysg eraill.
Pob lwc i’r ddau.