Bûm yn y Llyfrgell Genedlaethol y dydd o’r blaen. Mae yno arddangosfa helaeth ar hyn o bryd gyda’r teitl ‘Delfryd a Diwydiant’.
Gan ei bod hi yn 200 mlynedd ers cychwyn y ‘National’ Gallery yn Llundain, mae’r sefydliad hwnnw wedi benthyca llun yr un i nifer o orielau trwy Brydain i ddathlu’r achlysur.
Y llun a ddaeth i Aberystwyth yw un o luniau Canaletto, artist Eidalaidd enwog o’r ddeunawfed ganrif.
Mae’r llun yn dangos seiri maen wrthi’n paratoi cerrig nadd ar gyfer eglwys yn Fenis, gyda golygfa o’r ddinas yn y cefndir. Diau y bydd llun enwog fel hwn yn denu ymwelwyr i’r Llyfrgell. O gwmpas y llun hwn mae Mari Elin Jones, a baratodd yr arddangosfa, wedi dethol yn fedrus nifer helaeth o luniau o’r Gymru wledig a’r Gymru ddiwydiannol o’r ddeunawfed ganrif hyd heddiw.
Mae yna amrywiaeth fawr yn y dewis, sy’n dangos cynifer o artistiaid dawnus, yn frodorion ac yn bobl ddwad, sydd wedi gweithio yng Nghymru ers 250 o flynyddoedd a mwy.
Un a dynnodd fy sylw i yw’r llun uchod gan Guto Morgan, artist ifanc o Geredigion. ‘Frayed roots’ (Gwreiddiau briw?) yw ei deitl, ond mae’n gwneud i mi feddwl am ddiwrnod gwyntog am ryw reswm. Wedi cymryd at y lliwiau, a’r ffordd y mae’n defnyddio’r paent yr ydw i, rwy’n credu.
Cofiwch alw heibio i weld yr arddangosfa!