Cantata Cerdd Dant yn estyn croeso i’r ŵyl

Cyfansoddiad cerddorol newydd i groesawu’r Ŵyl Cerdd Dant i Aberystwyth

gan Deian Creunant
Screenshot-2024-10-20-at-17.29.14-1

Rocet Arwel Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith

Aberystwyth a’r Fro fydd cartref yr Ŵyl Cerdd Dant yn 2025 ac fel rhan o’r gweithgareddau croeso swyddogol, caiff cantata arbennig ei llwyfannu am y tro cyntaf.

Mae logo’r ŵyl hefyd wedi cael ei gyhoeddi, a dyma gyfle cyntaf darllenwyr Bro Aber 360 i weld dyluniad Rhys Pugh o Drefenter.

Mae’r gwaith paratoi eisoes wedi cychwyn ar gyfer un o brif wyliau cerddorol Cymru, y testunau bron yn barod a’r gwaith o ganfod cartref i’r ŵyl a chodi arian yn mynd rhagddo.

Ond mae’n siŵr mai un o’r cyhoeddiadau mwyaf cyffrous yw perfformiad cyntaf cyfansoddiad newydd sbon gan Bethan Bryn o Gantata’r Geni, y cantata cerdd dant cyntaf erioed. Caiff ei berfformio fel rhan o gyngerdd cyhoeddi’r ŵyl yn Eglwys San Mihangel, Aberystwyth, am 7:30 o’r gloch nos Sadwrn, 23 Tachwedd. Gan mai hwn fydd première byd-eang cyfansoddiad unigryw na chlywyd ei debyg erioed o’r blaen yn nunlle yn y byd, mae disgwyl i’r tocynnau hedfan, felly cofiwch fachu rhai yn fuan.

Yn ogystal â’r Cantata ei hun, bydd hwn yn gyfle i weld a chlywed Linda Griffiths, Ensemble Telyn Gwasanaeth Cerdd Ceredigion a Dawnswyr Seithenyn. Felly, mae’n argoeli i fod yn noson arbennig iawn.

Yn ôl Rocet Arwel Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Ŵyl, bydd hwn yn gychwyn gwych i’r flwyddyn,

“Mae’n hyfryd gweld yr Ŵyl Cerdd Dant yn dychwelyd i’r ardal ac mae’r brwdfrydedd eisoes yn amlwg. Roeddem yn awyddus i roi hwb cychwynnol i’r trefniadau. A phan soniodd Bethan Bryn, brenhines cerdd dant y fro, am ei hawydd i greu cantata newydd, doedd dim angen trafod mwy. Rwy’n tybio y bydd y noson yn wledd i’r glust ac i’r llygad. Mae’n debyg mai hwn fydd yr unig berfformiad, felly peidiwch ag oedi cyn archebu eich tocyn.

“Hoffwn annog pawb i gyfrannu at y gweithgareddau dros y deuddeg mis nesaf ac rwy’n edrych ymlaen at y cydweithio a’r cynllunio wrth edrych ymlaen at fis Tachwedd 2025.”

Gallwch gael eich tocyn ar gyfer y noson yn Siop Inc, Aberystwyth – y pris yn £10 – arian parod, os gwelwch yn dda.

Os hoffech ymuno yn yr hwyl neu os ydych yn awyddus i gyfrannu gwobr i gystadleuaeth neu gefnogi mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Rocet Arwel Jones (Cadeirydd) neu Helen Medi Williams (Ysgrifennydd), a dilynwch yr ŵyl ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dweud eich dweud