Cofio Carwyn

Cyfweliad gyda Carwyn Daniel, un o selogion Clwb Pêl-droed Aberystwyth a bachan annwyl iawn

Siôn Jobbins
gan Siôn Jobbins

Gyda thristwch mawr iawn y clywodd pobl Aberystwyth a selogion Clwb Pêl-droed y Dre am farwolaeth un o gymeriadau mwyaf annwyl Aber – Carwyn Daniel. Dyma fachan, er gwaethaf ei gyflwr corfforol, oedd wastad mor hapus i rannu jôc, tynnu coes a holi sut oedd eraill. Doeddwn i ddim yn nabod Carwyn yn dda iawn, ond byddwn wastad yn cael sgwrs ag e wrth wylio Aber yn chwarae (erm, colli) gemau pêl-droed.

Wrth olygu rhifyn mis Mehefin 2024 o’r Angor, dyma fi’n gofyn i Carwyn am gyfweliad – ’dwi mor falch iddo gytuno. Diolch i Ifor ap Dafydd am y ffotos o Carwyn ar ddiwrnod bendigedig o braf ar Bromenâd Aber. Boed i’r haul wenu’n ddiddiwedd ar ein hatgofion o fachgen mor annwyl a thyner – roedd yn ysbrydoliaeth i mi ac i nifer eraill rwy’n siŵr.

Siôn Jobbins

Holi Carwyn

Un o le wyt ti’n wreiddiol, lle magwyd ti yn Aberystwyth? Oes gen ti frodyr a chwiorydd a theulu yn Aber? A lle wyt ti’n byw nawr?
Ie, un o Aber ydw i, cefais fy magu ym mhentref Goginan, a mae gen i un chwaer, Nerys, sy’n byw yng Nghwm Rheidol mae hi’n filfeddyg yn Llanbadarn – ac ar raglen Y Fets ar S4C! Rwy nawr yn byw yn Clos Silien, bwys Morrisons.

Beth yw dy atgofion o gael dy fagu yn y dref?
Gefes i fagwraeth hapus. Bues i hefyd bant am dair mlynedd yn y coleg yng Nghroesoswallt yn dilyn cwrs mewn ‘Fabrics and Office’ yn 1990s. Roedd yn amser da yn byw ’da ffrindiau ac rwy dal
mewn cyswllt ’da rhai ohonynt.

Beth wyt ti’n hoffi am fyw yn Aber?
Mae Aber yn le hyfryd, lot o bethau i’w wneud e.e. chwarae bowls, fel arfer rwy’n chwarae ym Morfa Mawr. Rwy’n hoffi mynd ar y Prom a mynd i’r caffis fel Cafe Nero gyda fy rhieni – Gareth a Betty.

Beth fydde ti’n newid am Aberystwyth?
Mae angen gwneud y palmentydd mwy esmwyth fel bod nhw’n saffach i bobl anabl.

Fel ffan mawr o Glwb Pêl-droed Aberystwyth pwy yw dy hoff chwaraewr a beth yw dy hoff beth am y clwb?
Glyndwr ‘Paddy’ Hughes oedd fy hoff chwaraewr – roeddwn i’n meddwl fod e’n chwaraewr da. Fy hoff chwaraewr nawr yw Chris Venebles sydd hefyd yn chwaraewr da – ac mae’n gallu sgorio – ac rwy’n hoffi’r ffordd mae e’n pasio’r bêl. Rwy’n hoffi’r atmosffer wrth wylio Aber – mae digon o hwyl yno, mae’n
gyfeillgar, ac rwy’n cael paned o de hanner amser. Problem fawr Aber yw bod ni’n bell o’r trefi mawr ac mae angen rhagor o chwaraewyr da arnom ni.

Petai ti’n gallu newid pethe am y Clwb, beth fydde nhw?
Ddim yn cadw mynd i gêm olaf y tymor i aros lan o hyd!

Beth yw dy hoff glybiau eraill ac wyt ti’n teithio i weld y gemau?
Lerpwl. Rwy wedi bod cwpl o weithiau. Bues i i weld nhw yn erbyn Everton. Rwy’n cefnogi Lerpwl achos bod fi wedi cael fy ngeni yn 1980s pan oedden nhw’n llwyddiannus iawn.

Rwyt ti’n chwarae i glwb pêl-droed Sêr Aber – beth yw clwb Sêr Aber? Ers pryd wyt ti wedi chwarae ’da nhw a beth yw’r uchafbwyntiau?

Clwb anabl yw ‘Sêr Aber’ ac rwy’n chwarae yn y gôl. Rwy wedi chwarae ’da nhw ers rhai blynyddoedd. Ni’n chwarae mewn twrnamaint unwaith y mis ac mae’r un nesa ar 9 Mehefin.
Coedlan y Parc, Maes Aberyswyth, yw cartref Sêr Aber hefyd ond ry’n ni wedi teithio i chwarae yn Abertawe, Caerfyrddin a llefydd eraill. Mae’r chwaraewyr yn griw da ac ru’n ni’n cael lot o hwyl –
rwy’n cofio unwaith i un boi, Dav, bachan Pwyleg oedd arfer chwarae ’da ni, rhoi cic anferthol ac aeth y bêl fewn i’r afon. Ni’n chwarae mewn cit melyn, nid gwyrdd a du traddodiadol Aberystwyth.

Beth wyt ti’n hoffi gwneud a sut wyt ti’n ymlacio heblaw am wylio neu chwarae pêl-droed?

Rwy’n hoffi pob chwaraeon … heblaw criced, hwylio, ac American football. Rwy’n hoffi cymdeithasu a mynd mas o gwmpas dre.

Beth yw dy hoff fwyd a pha un yw dy hoff fwyty neu take-away yn Aber – a pham?
Rwy’n hoffi cyrri mild fel korma. Rwy’n hoff iawn o Harry’s ac yn joio’r byrgers yno.

Beth yw cynlluniau’r grŵp at y dyfodol?
Hoffwn fynd i wylio Cymru yn chwarae pêl-droed gyda chriw Canolfan Padarn. Roedd Canolfan Padarn arfer bod y tu ôl i’r depo ambiwlans ar Ffordd Llanbadarn ond mae wedi symud nawr i le mae Llyfrgell y Dre.

Wyt ti’n gweithio?
Ydw, rwy’n gweithio ar Radio Bronglais yn cyflwyno a gwneud cyfweliadau. Bues i’n gweithio yn Radio Ceredigion am 15 mlynedd gan ateb ffôn i raglen Carys Rhys Jones.

Hoffem ni ddiolch i Lee sydd o Benuwch ac Yusef o Nigeria am roi help llaw i Carwyn pam welsom ef ar y Prom ac yn y gemau pêl-droed.