Clive Menswear yn dathlu Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth

Arddangosfa o’r crysau sydd ar gael

Mererid
gan Mererid
Clive4
Clive3
Clive2
Clive1
Clive4-1

Mae busnes lleol Clive Continental Menswear wedi partneriaethu gyda Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth i arddangos y crysau sydd ar gael drwy wefan y Clwb.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys: –

  • Crysau cartref a ffwrdd presennol gan noddwyr presennol Prifysgol Aberystwyth;
  • Crys cartref hanesyddol 2017-18 o’r cyfnod pan roedd Cambrian Tyres yn noddi’r Clwb;
  • Crys cartref hanesyddol 2004-5 o’r cyfnod pan roedd Cambrian Tyres yn noddi’r Clwb;
  • Eitemau hanesyddol eraill o’r Clwb ar fenthyg gan y Clwb.

Os nad ydych chi yn gallu galw yn Aberystwyth i weld yr arddangosfa, beth am brynu crys neu docyn tymor i gefnogi’r Clwb

drwy https://www.atfc.org.uk/

Dywedodd Sion Clifton, ar ran Clive Continental Menswear: –

Mae’n bleser gallu rhoi gofod i hyrwyddo tîm lleol, ac i gefnogi ymwybyddiaeth am hanes ein tîm pêl-droed. Mis diwethaf, fe wnaethom arddangos casgliad cerddoriaeth y grŵp Madness, felly rydym yn mawr obeithio y bydd ein ffenestr siop yn atyniad i bawb alw heibio. Mis Gorffennaf, cafwyd arddangosfeydd yn ymwneud â beiciau, felly rydym yn croesawu unrhyw syniadau am gasgliadau atyniadol eraill.

Diolch i Clive Continental Menswear am roi ychydig o liw ac amrywiaeth i’r dref.

Mae llawer o gemau gwych Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth wedi bod ar Goedlan y Parc, felly pam na wnewch chi ymuno yn un o gemau’r dyfodol?

Dweud eich dweud