Cartref Newydd i Gyngor Tref Aberystwyth

Tŷ’r Offeiriad

gan Sue jones davies

Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi symud o’u cyfeiriad blaenorol yn Stryd y Popty i Dŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi ar Forfa Mawr.

Mae’r swyddfeydd newydd yn rhan o hen Eglwys Gatholig y Santes Gwenffrewi, a brynwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth yn 2021. Dyma’r eiddo cyntaf i’r Cyngor Tref fod yn berchen arno ers newidiadau i’r Cynghorau Bwrdeistref yn 1974. Roedd y swyddfeydd ar Stryd y Popty yn cael eu rhentu am £18,000 y flwyddyn a daw’r brydles yno i ben ym mis Tachwedd ar ôl 10 mlynedd.

Yr oedd Neuadd Gwenfrewi, fel y gwelir yn awr, i gael ei ddymchwel oni ddeud o hyd i brynwr. Roedd y Cyngor Tref yn edrych i fuddsoddi mewn cartref parhaol i’w rannu gyda’r gymuned, felly roedd yr eiddo hwn yn ddelfrydol.

Mae cam un bellach wedi’i gwblhau. Mae gan Dŷ’r Offeiriad swyddfeydd i bum aelod o staff. Y cam nesaf, y mae’r Cyngor Tref yn ceisio grant ar ei gyfer, yw’r hen Eglwys, sy’n ofod mawr i grwpiau cymunedol ei ddefnyddio.

Dywedodd Will Rowlands, Clerc Cyngor Tref Aberystwyth a gymerodd yr awenau gan Gweneira Raw Rees fis Ebrill diwethaf : “Fe symudon ni yma ddydd Gwener ddiwethaf ( Pedwerydd o Hydref) ar ôl cwblhau’r gwaith adnewyddu ac rydym wedi setlo’n dda iawn. Mae’r swyddfa ar agor o 9.00 tan 16.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r holl fanylion cyswllt eraill yn aros yr un fath. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yma!”

Mae’r symud yn cyd-fynd â gwefan newydd Cyngor Tref Aberystwyth sydd wedi bod ar y cardiau ers peth amser:www.aberystwyth.gov.uk

I gael rhag o wybodaeth am y symud, cysylltwch gyda Chyngor Tref Aberystwyth drwy bostio council@aberystwyth.gov.uk neu ffonio 01970624761.