Ar ddiwrnod cynnes roedd yn braf cael bod mewn cynulleidfa yn yr awyr agored ar y prom yn Aber yn gwrando ar gantorion o Lŷn i Benfro ac o’r ffin, ger Meifod, at y môr yma yn y gorllewin. Deuddeg o gorau cymunedol yn dod ynghyd.
Roeddynt yn codi arian i WATERAID, elusen sy am sicrhau bod gan bawb ym mhobman ddŵr glan yn gyfleus i’w cartrefi. D’yw hyn ddim yn wir i bron 1 o bob 10 person ac i bron 1 o bob 5 does ganddynt ddim ty-bach safonol.
Fe ganodd y côr cyfan bedair cân gan gynnwys ‘Mae Gen I Freuddwyd – Troyte/Myrddin ap Dafydd a chân o’r Zulu yn cyfeirio at yr amser pan oedd Nelson Mandela yn y carchar yn Robben Island yn 1962.
Daeth hi wedyn yn amser i’r corau unigol gyflwyno eu caneuon hwythau. Lleisiau Leri o Dal-y -bont, yn canu Easy on the Earth, Côr Gobaith o Aberystwyth, yn canu Cae o Ŷd. O Gricieth clywsom eu côr nhw yn canu siant Taize ac o Landudoch a Threfdraeth Sir Benfro cawson Dyro i ni Heddwch/Dona Nobis Pacem. Deg côr unigol i gyd yn canu mewn dull hamddenol a chartrefol. Wrth wrando ar gorau fel hyn mae’n lles i’r ysbryd ac yn siŵr i’r rhai sy’n canu mae’n lles i’r enaid.