Blwyddyn newydd, cychwyn newydd i Rhian a HAHAV

Mae’r elusen hosbis yn y cartref yng Ngheredigion, HAHAV, wedi penodi Rhian Dafydd yn Brif Swyddog.

gan Deian Creunant

Rhian Dafydd

Wedi’i geni a’i magu yn Aberystwyth a bellach yn byw yn Aberaeron, mae Rhian yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl, a bydd yn manteisio ar y profiadau hynny i lywio’r elusen a’i helpu i gyflawni ei chynlluniau uchelgeisiol.

Yn fwyaf diweddar, roedd yn gweithio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ond bu cyn hynny yn gweithio yn Theatr Felinfach ac mae hefyd yn y gorffennol wedi sefydlu a rheoli cadwyn o siopau.

Wrth gychwyn yn ei swydd ym mis Ionawr, bydd profiad helaeth Rhian yn hollbwysig wrth symud yr elusen yn ei blaen,

“Rwy’n hynod o falch i gael y cyfle i arwain HAHAV mewn cyfnod cyffrous yn ei hanes.”

“Mae gweld y gwaith mae’r elusen wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd wedi creu argraff arnaf, ac rwy’n edrych ymlaen i gael y cyfle i chwarae’n rhan wrth iddi dyfu ac ehangu. Mae’r datblygiadau ym Mhlas Antaron yn Aberystwyth yn hynod gyffrous a bydd yn cynnig sylfaen gref i’r dyfodol.

“Bydd datblygu a thyfu’r rhwydwaith o wirfoddolwyr ledled Ceredigion, nid yn unig yn ardal Aberystwyth, i gefnogi’r gwaith hanfodol sy’n ehangu’n barhaus, yn un o’r prif dargedau i ni ynghyd â chodi proffil yr elusen trwy’r cyfryngau cymdeithasol a gyda mwy o gyhoeddusrwydd.

“Rwy’n awyddus felly i ymweld ag unrhyw grwpiau fel Merched y Wawr, Sefydliad y Merched, y Clybiau Ffermwyr Ifanc ac ati i dynnu sylw at yr hyn y mae’r elusen yn ei gynnig a’r cyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli i’n cynorthwyo i ddarparu’n gwasanaethau.

“Rwy’n gobeithio bydd fy mhrofiad blaenorol yn y maes manwerthu hefyd o gymorth wrth i ni barhau i ddatblygu ein siop a’n warws gan fod yr arian a godir o’r siopau hyn, diolch i’n gwirfoddolwyr ymroddedig, yn hanfodol i ariannu ein gwasanaethau parhaus.”

Ychwanegodd Dr Alan Axford, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr HAHAV ac un o sylfaenwyr yr elusen,

“Rydym wrth ein bodd bod Rhian yn ymuno â ni i’n harwain drwy gyfnod allweddol. Ers ein sefydlu yn 2015 rydym wedi bod yn uchelgeisiol iawn yn yr hyn yr ydym am ei gyflawni ac wedi ymdrechu’n gyson i gyflawni’r nodau hynny.

“Mae sicrhau Plas Antaron fel canolfan barhaol sy’n cynnig gweithgareddau amrywiol i boblogaeth Ceredigion yn un elfen ond rydym hefyd am ehangu ein rhwydwaith gwirfoddolwyr ledled Ceredigion. Mae Rhian yn cynnig nid yn unig profiad helaeth mewn gwahanol feysydd, ond hefyd gwybodaeth ac ymwybyddiaeth eang o ardal Ceredigion, rhywbeth sy’n amhrisiadwy os ydym am gyflawni’n effeithiol ar draws y sir.

“Mae’r Bwrdd a minnau yn edrych ymlaen at weithio gyda Rhian a’i chefnogi i gyflawni ei syniadau.”

Os hoffech wirfoddoli gyda HAHAV cofiwch gysylltu ac am fwy o wybodaeth am  HAHAV a’i wasanaethau ewch i hahav.org.uk, ffoniwch 01970 611550, neu anfonwch ebost at: admin@hahav.org.uk.