Alergeddau- Ydych chi’n diodde’ yn ddiarwybod?

Gwasanaeth newydd i drigolion Gogledd Ceredigion

Mererid
gan Mererid

Tisian di-baid, trwyn yn rhedeg, a’r llygaid yn cosi – dyma rai o symptomau amlwg a chyfarwydd alergedd tymhorol y mae nifer ohonom yn gwybod amdanynt.

Mae rhai yn diodde’ o anoddefiadau i fwydydd: problemau treulio neu boenau bol yn aml, ac yn amau bod rhyw fwyd penodol yn effeithio arnynt.

Ond efallai nad ydych mor gyfarwydd â symptomau amrywiol iawn sensitifrwydd i fwydydd a llawer ohonom yn dioddef heb feddwl bod unrhyw gyswllt â’r diet.

Pwy fyddai yn meddwl, i rai, y byddai bwyd yn gallu cyfrannu at gynifer o anhwylderau fel:

  • meigryn
  • problemau croen, acne neu gosi
  • diffyg egni neu flinder
  • briwiau/wlser yn y geg
  • pen tost neu salwch cyson
  • cymalau neu gyhyrau poenus
  • gorbryder neu hwyliau isel
  • gorfywiogrwydd – yn arbennig mewn plant
  • diffyg canolbwyntio
  • gwaethygu symptomau alergeddau fel alergedd i lwch, paill neu gathod;
  • gwaethygu ecsema neu asthma.

Yn aml, gyda’r symptomau yma, mae oedi cyn bod y corff yn adweithio i’r bwydydd penodol y mae’n sensitif iddynt, a hynny’n ei gwneud hi’n anoddach i ddarganfod gwraidd y broblem heb gymorth.

Rydym yn ffodus yma yng Ngheredigion bod cymorth lleol ar gael.

A wyddech chi mai yma yng Ngogledd Ceredigion y mae cartref Sefydliad Prydeinig Alergedd a Therapi Amgylcheddol, sef y British Institute of Allergy and Environmental Therapy (BIAET)?

Sefydlwyd BIAET yn 1987 gan Don a Sheila Harrison yn Ffynnonwen, Llangwyryfon, ger Aberystwyth, a’r nod oedd addysgu therapyddion a darparu remidiau homeopathig at alergeddau. Gan fod y nifer sy’n dioddef sensitifrwydd i fwydydd ac alergeddau ar gynnydd, mae gwaith y sefydliad mor bwysig ag erioed, gydag aelodau ledled Prydain gyfan yn cynnig cymorth i ddarganfod beth sy’n achosi’r broblem a sut i leddfu symptomau.

Un o aelodau BIAET yw’r Ymgynghorydd Maeth, Angharad Williams, sy’n credu ei bod hi’n fraint cael cydweithio gyda therapyddion eraill yng Nghanolfan Therapi Naturiol Ffynnonwen.

“Dwi wrth fy modd yn helpu pobl i deimlo’n well drwy gael yr iechyd gorau posibl. Dwi’n gwneud hyn drwy fynd ati’n holistig i ystyried diet a maeth a chanfod alergeddau. Dwi’n gallu rhoi cymorth i’r rheiny sy’n diodde’ o alergeddau, neu sydd ag anoddefiad neu sensitifrwydd i fwydydd penodol a dwi wir yn cael boddhad mawr o’u gweld yn gwella.”

Os oes gennych alergedd neu’n meddwl efallai eich bod yn dioddef o sensitifrwydd i fwyd neu sylwedd, peidiwch dioddef heb fod angen, cysylltwch!

Mae croeso cynnes i chi gysylltu ag Angharad i gael gwybodaeth bellach: angharadwnutrition@gmail.com | 07815879209 | FB Angharad Williams Nutrition | https://www.ffynnonwenremedies.com/find-a-therapist/