Yr Affricanwr o Aberystwyth

Penwythnos arbennig i gofio David Ivon Jones

Mererid
gan Mererid
440px-David_Ivon_Jones_001

Ar yr 28ain a’r 29ain o Fehefin 2024, cafwyd penwythnos arbennig i ddathlu bywyd David Ivon Jones.

Gyda chan mlynedd ers iddo farw, mae Bro Aber 360 wedi rhoi sylw llynedd i gyfraniad y gŵr o Aberystwyth: –

Ganed David Ivon Jones yng Nghymru yn 1883 a bu farw yn 1924 yn yr Undeb Sofietaidd. Ar ei wely angau, anogodd bawb i ‘gyflawni’r genhadaeth chwyldroadol fawr a osodwyd ar drefedigaethau yn gyffredinol a De Affrica yn arbennig gyda defosiwn ac urddas chwyldroadol, gan ganolbwyntio ar ysgwyd seiliau cyfalafiaeth y byd ac imperialaeth Brydeinig’.

Mae’r ‘Dirprwywr dros Affrica,’ fel yr adwaenid Jones yn y Comiwnyddol Rhyngwladol, bellach yn cael ei goffáu gan blac ar gapel Undodaidd, Aberystwyth. Ond yn Ne Affrica, mae ei etifeddiaeth yn cael ei thrysori’n arbennig heddiw gan Blaid Gomiwnyddol De Affrica a Chyngres Genedlaethol Affrica.

Ar y nos Wener, cafwyd dangosiad o ffilm ddogfen Gwyn Alf o 1986, gyda dangosiad yn Gymraeg a Saesneg ar wahân, a chyfle i gael mwy o hanes y ffilm gan y cynhyrchydd Colin Thomas. Cafodd Colin dipyn o drafferthion gyda caniatâd i wneud y ffilm, felly mae’n syndod iddo ei chwblhau. Diolch i’r BBC a S4C am ganiatâd i ddangos y ffilm.

Arweiniwyd y noson gan Meic Birtwistle. Diolchwyd i Gyngor Tref Aberystwyth ac UNITE Community Cymru am eu cymorth ariannol ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am y lleoliad a’r gefnogaeth archifol.

Ar y dydd Sadwrn, lansiwyd llyfr gan Praxis Press “A Voice for Freedom” – llyfr o erthyglau ac areithiau David Ivon Jones, yn Gymraeg a Saesneg. Golygwyd y llyfr gan Robert Griffiths a Meic Birtwistle a lansiwyd y llyfr yn Arad Goch.

Tystia’r casgliad hwn o’i egwyddorion dyngarol a chomiwnyddol dwfn. Mynega ei gariad tuag at ei famwlad Gymreig, at ei wlad fabwysiedig, De Affrica a’i phobloedd ac at Rwsia chwyldroadol a’i dosbarth gweithiol a’i gwerinwyr.

Gorffennwyd y penwythnos gyda dangosiad o ffilm London Recruits yng Nghanolfan Celfyddydau Cymru ar y nos Sadwrn, 29ain o Fehefin. Mae’r ffilm yn seiliedig ar gofnod hanesyddol o unigolion o Lundain yn teithio i Dde Affrica i osod bomiau o daflenni ANC ar gyfnod pryd roedd dosbarthu taflenni ANC yn anghyfreithlon.

Gobeithio y bydd pawb wedi cael cyfle i ddysgu am gyfraniad mawr y gŵr yma o Aberystwyth.