Addysg heddwch

Cyfle i wirfoddoli a bod yng nghwmni plant

gan Medi James

ADDYSG HEDDWCH – Ysgolion Heddychlon

“Pan dwi’n teimlo’n grac dwi’n mynd am dro gyda fy nghi.” “Pan dwi’n becso am rywbeth dwi’n  siarad â fy ffrind gorau.” “Dwi’n chwarae pêl-droed.”

Roedd plant 10 ac 11 oed yn trafod sut mae delio â theimladau anodd, wrth eistedd mewn cylch a chymryd troeon i siarad.

Roeddent yn cymryd rhan mewn rhaglen Ysgolion Heddychlon, a ddatblygwyd gan Grynwyr Canolbarth Cymru ac sy’n cael eu rhedeg yn dymhorol trwy ysgolion cynradd Gogledd Ceredigion a Phowys ers 2016.

Mae Medi James, Jane Powell ac Andrew Capel wedi bod yn rhedeg y rhaglenni hyn dros y blynyddoedd yng Ngogledd Ceredigion. Mae’r ddau lun yma o Ysgol Rhydypennau ac Ysgol Penrhyncoch. Gyda thair sesiwn awr a hanner yr un, dechreuon nhw trwy drafod sut mae rheoli emosiynau anodd, yn enwedig pryder.

Wedyn aethon nhw’n ymlaen i archwilio sut mae trin gwrthdaro trwy wrando a gweld safbwynt pobl eraill yn lle taflu bai. Yn y sesiwn olaf, y pwnc oedd profiad ffoaduriaid, gan drafod effeithiau rhyfel.

Mae’r sesiynau’n llawn amrywiaeth, gyda gemau cydweithredol, trafodaeth mewn grwpiau bach, actio ac ymarferion anadlu meddylgar.

A beth oedd barn y plant? Ysgrifennodd un bachgen ar y diwedd: “Heddwch i fi yw helpu ffrindiau. Eistedd mewn gardd dawel efo fy nghi. Pan mae pawb yn cydweithio a gwrando ar ei gilydd. A helpu pobl mewn angen.”

Ond falle mai prif nerth y rhaglen yw rhoi blas ar ffordd o fod gyda’n gilydd lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn gallu siarad yn agored, a bydd gweddill y cylch yn gwrando arnyn nhw gyda pharch.

Fel dywedodd un ferch: “Roedden ni wedi mwynhau’r cyfan achos oedd e’n ddiddorol iawn a difyr.”

Rydym wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i ddod allan i ysgolion gyda ni. Fe roir hyfforddiant syml a rhaid cael y tystysgrif priodol i weithio gyda phlant. Mae’n cymryd tuag awr yr wythnos o’ch amser am chwe wythnos ar y tro. Mae cael bod yng nghwmni plant yn sbort ac yn codi’r ysbryd.

Cysylltwch trwy: www.addysgheddwchpeaceedu.org.uk

Jane Powell