Aberaid Morlan

Cymuned * Creadigrwydd * Integreiddio

gan Medi James

Mae’r ardal arddangos hon wedi’i hadnewyddu yn ddiweddar gyda chymorth Grant Cydlyniad Cymdeithasol

Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Aberaid, y grŵp cefnogi ffoaduriaid, wedi cynnal sesiynau sgwrsio wythnosol, gweithdai a digwyddiadau yn ystod gwyliau ysgol yng Nghanolfan Morlan. Yn sgil hyn maent wedi sicrhau Grant Cydlyniad Cymdeithasol bychan i adnewyddu cyntedd Morlan i fod yn ofod arddangos gwaith celf a chrefft.

Yn y llun gwelir Moira, Cadeirydd Aberaid, Kathryn sy’n ymddiriedolwr a Mohammad un o’r crefftwyr yn gosod y gwaith cyntaf.

Mae’r grŵp amrywiol yma o drigolion lleol wedi dod ynghyd gan gynnwys aelodau o ffoaduriaid o Syria, Wcraen ac Afghanistan, yn ogystal â phobl eraill o’r Aifft, Libya, Nigeria, Libanus a’r gymuned o Deithwyr

O fewn y grŵp mae unigolion ag ystod eang o sgiliau a phrofiad fel artistiaid, crefftwyr, ffotograffwyr, beirdd a chynhyrchwyr bwyd.

Bydd arddangosfeydd newidiol o’u gwaith yn cael eu dangos yn Morlan yn ystod y misoedd nesaf.

Mae croeso i unrhywun ymuno mewn dathliad agored a pherfformiad dydd Mercher 4 Rhagfyr 11.00-1.00pm

Dweud eich dweud