Ysgol Penweddig yn dathlu’r hanner cant

Mae cyfnod cyffrous iawn ar droed ym Mhenweddig wrth i gymuned yr ysgol baratoi i ddathlu 50 mlynedd

gan Elin Mair Mabbutt

Mae cyfnod cyffrous iawn ar droed ym Mhenweddig wrth i gymuned yr ysgol baratoi i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r ysgol. O fis Medi 2023 ymlaen bydd cyfres o ddigwyddiadau i nodi’r garreg filltir arbennig hon gan ddechrau Dydd Sadwrn Medi 16eg gyda phrynhawn agored yn yr ysgol rhwng 12.00 a 2.00pm. Bydd cyfle i grwydro’r ysgol, hel atgofion a sgwrsio dros baned a chacen. Bydd disgyblion presennol yr ysgol yno i ddiddanu ac i arwain teithiau tywys o amgylch yr adeilad. Mae croeso cynnes i bawb, o hen ddisgyblion, staff a ffrindiau’r ysgol.

Yna gyda’r hwyr mi fydd yna Noson Gabaret arbennig iawn yn cael ei chynnal yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Noson o ddathlu talentau cyn ddisgyblion yr ysgol ar hyd y blynyddoedd. Mae’r noson yn cael ei chyd-lynu gan Rhys Taylor a Lowri Steffan a mae’r rhestr artistiaid yn cynnwys Georgia Ruth, Sam Ebenezer, Mellt, Aled Richards a Mared Emyr i enwi ond rhai. Bydd Nia Elin a Trystan ab Owen yn arwain y noson ac mi fydd yna gyfres o fideos a chyfarchion gan eraill o deulu Penweddig. Dewch yn llu felly i fwynhau a dathlu llwyddiannau’r ysgol arbennig hon ar hyd y degawdau.

“Rydym yn edrych ymlaen yn ofnadwy i lwyfannu’r noson arbennig hon a fydd, gobeithio, yn dod â llu o atgofion melys yn ôl i bawb yn y gynulleidfa. Mae’r ysgol wedi cynhyrchu cymaint o dalent anhygoel ar hyd y blynyddoedd ac mae’n destun balchder gallu dathlu’r talentau yma mewn noson o’r fath. Dewch yn llun – mi fydd hi’n noson i’w chofio” medd Lowri Steffan un o drefnwyr y noson.

Mae’r tocynnau ar werth yng Nghanolfan y Celfyddydau a chadwch lygad ar safle facebook y dathliadau am wybodaeth pellach.