Ymweliad lles Asynnod Dyfi

Cwrdd a Moses

Karen Rees Roberts
gan Karen Rees Roberts

Bu cartref Hafan y Waun yn ffodus iawn i gael ymweliad gan Asynnod Dyfi.

Cafodd Moses yr asyn ei gyfarch gan drigolion a staff cartref Hafan y Waun.

Cerddodd trwy’r cartref ac i mewn i’r lolfeydd a’r ystafelloedd gwely.

Daeth atgofion a straeon rhyfeddo i’r amlwg wrth i’r bore fynd yn ei flaen. Roedd yn hudolus gweld wynebau ein trigolion wrth iddynt gofleidio a chusanu Moses (Roedd yn boblogaidd iawn) .

Roedd yn hynod ddiddorol yn dysgu mwy am ein trigolion wrth i’r atgofion gael eu mynegu.

Diolch i bawb a gymerodd ran ac mae edrych ymlaen yn barod at y tro nesaf.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â : dyfidonkeys@btinternet.com

Facebook:www.facebook.com/dyfidonkeys

Ffôn: 0771 702 0344