Wythnos Greadigol Arad Goch yn dychwelyd!

Mae un o hoff ddigwyddiadau Arad Goch yn ôl am yr haf

Arad Goch
gan Arad Goch

Wythnos GreAdiGol Arad Goch yn dychwelyd!

Mae’r Wythnos Greadigol yn un o’n hoff ddigwyddiadau yn y flwyddyn yn Arad Goch. Am wythnos gyfan, mae’r Ganolfan yn llawn bwrlwm a hwyl gyda phlant ym mhob stafell yn rhoi tro ar bob math o bethau creadigol! Celf, actio, dawnsio, peintio … mae’r rhestr yn hir!

Nawr, am y tro cyntaf ers cyn amser Covid-19, mae’r Wythnos Greadigol yn ôl, ac mae’r llefydd yn mynd yn gyflym! Manylion sut i gofrestru isod.

Os ydych chi ym Mlwyddyn 2-6, ac yn chwilio am rywbeth creadigol a chyffrous i’w wneud yn y Gymraeg yn ystod gwyliau’r haf, mae’r Wythnos Greadigol yn berffaith i chi.

Fe’i cynhelir yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth, o’r 31/07 i 04/08, 9:30-15:30 bob dydd.

Dim ond ambell le sydd ar ôl, felly cysylltwch i gadw eich lle nawr! Pris – £100 y plentyn, neu £90 y pen am blant o’r un teulu.

Cysylltwch â post@aradgoch.org neu ffoniwch 01970-617998.