TwmpDaith

Adfywiad hen draddodiad

gan Medi James

Be’ well ar noson o Haf gwlyb a diflas ym mis Gorffennaf ar y prom yn Aberystwyth ond taro ar #TwmpDaith yn y Bandstand. Dwy awr wych o ddawnsio gwerin a chael gwrando ar  8  WYTH, o offerynwyr ifanc talentog. Criw o’r enw 8, Project Dawns Traddodiadol Cymreig, oedd newydd dreulio tair wythnos gyda’i gilydd yn dysgu a pherffeithio’u sgiliau cerddorol amlwg yn cyd-chwarae, canu, clocsio a dysgu’r grefft o ‘alw’ ein dawnsfeydd traddodiadol. Os nad oeddech yno fe golloch chi wledd i godi’r ysbryd ac i gredu y daw haul ar y môr eto.  Edrychwch allan am y rhain wrth iddynt ddiweddu eu taith trwy Gymru gyda dau ymddangosiad yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd. Diolch i Cered am eu gwahodd.