Taith ‘Sha thre/ Am Adra’

Ifor ap Glyn yn cael cwmni beirdd Tal-y-bont ar ei daith gerdded drwy Gymru

gan Sue jones davies

Mae bardd a’r cyflwynydd Ifor ap Glyn yn cerdded o Gaerdydd i Gaernarfon, gan wneud gìg bob nos yng nghwmni beirdd lleol, ac er budd achosion lleol.

Nos Lun, 26 Mehefin, roedd yn y Llew Gwyn, Tal-y-bont, lle cafodd gwmni’r beirdd lleol Anwen Pierce, Gwenallt Llwyd Ifan a Huw Meirion Edwards Mwynhaodd y gynulleidfa wledd o farddoniaeth, o gerddi difrifol i rai doniol, ac un a ysgrifennwyd ar y noson! Gwnaed casgliad tuag at gronfa neuadd y pentre.

Dywedodd Ifor:

“Roedd bwriad gen i wneud hyn yn wreiddiol cyn diwedd fy nhymor fel Bardd Cenedlaethol. Ro’n i’n licio’r syniad o berfformio mewn lleoedd anghyfarwydd, fel y Blue Scar Club ym Mhont-rhyd-y-fen. Ond bydd yn gyfle hefyd i ailymweld â llefydd sydd â rhyw arwyddocâd personol i mi: mae nheulu wedi byw yn sawl un o’r trefi a’r pentrefi ar hyd y daith.”

Ond mae rheswm arall am gerdded 270 o filltiroedd, fel yr esboniodd Ifor:

“Enw’r daith yw ‘Sha thre/ Am Adre’ gan y bydda i’n cerdded nes cyrraedd fy nghartre yng Nghaernarfon. Mae miliynau o bobl yn cerdded pellterau tebyg ar hyn o bryd: o Syria i Lebanon, o Eritrea i Sudan, neu o Wcráin i Wlad Pwyl, yn y gobaith y bydd cartref iddynt ym mhen y daith. Yn ogystal â chefnogi achosion lleol, ro’n i’n awyddus i dynnu sylw at helyntion y bobl hyn, a chefnogi gwaith Cyngor Ffoaduriaid Cymru.”

Gallwch gefnogi gwaith Cyngor Ffoaduriaid Cymru drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.justgiving.com/page/ifor-ap-glyn-1684881984265